Cymdeithas Bêl-droed Tsieina

Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Pobl Tsieina

Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Pobl Tsieina, neu gelwir hefyd yn Cymdeithas Bêl-droed Tsieineaidd ( CFA ), yw corff llywodraethu pêl-droed yn Gweriniaeth Pobl Tsieina. Ffurfiwyd y Gymdeithas yn y brifddinas, Beijing yn 1924, gan ymuno â chorff gweinyddu pêl-droed y byd, FIFA yn 1931 cyn symud i Taiwan yn dilyn diwedd Rhyfel Cartref Tsieina (gweler Cymdeithas Pêl-droed Taipei Tsieineaidd).

Cymdeithas Bêl-droed Tsieina
Enghraifft o'r canlynolffederasiwn pêl-droed Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1924 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolFfederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed, AFC, East Asian Football Federation Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadEast Asian Football Federation, AFC Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.thecfa.cn/ Edit this on Wikidata
Tîm pêl-droed cenedlaethol Gweriniaeth Pobl Tsieina, 2011

Yn 1955 yn Beijing, gwrthododd CFA ag ymuno â chymdeithas ryngwladol arall o bwys. Fel yna y bu nes iddynt ymuno â Chyd-ffederasiwn Pêl-droed Asiaidd yn 1974, ac yna ail-ymuno â FIFA unwaith eto yn 1979.[1]. Ers ailymuno â FIFA, mae'r CFA yn honni ei fod yn sefydliad anllywodraethol a di-elw, ond mewn gwirionedd gweinyddir y CFA o'r un swyddfa â'r Ganolfan Reoli Pêl-droed, sy'n adran o Weinyddiaeth Gyffredinol Chwaraeon y weriniaeth.[2]

Enillodd Tsieina Gwpan Dwyrain Asia (EAFE) ddwy waith yn 2005 ac yn 2010 ac maent wedi bod yn ail yng Nghwpan Asia (AFC Asian Cup) ddwywiaith, yn 1984 a'r AFC Asian Cup yn 1984 and 2004. Er i Tsieina fethu a sgorio gôl yn ei hymddangosiad gyntaf yng Nghwpan y Byd yn 2002, gan golli ei holl gemau, ystyriwyd cyrraedd y ffeinals yn gamp yn ei hun.

Er nad oes hanes hir o chwarae pêl-droed yn Tsieina, amcangyfrifir fod 250 miliwn person wedi gwylio Ffeinal Cwpan Asia AFC yn 2004. Collodd Tsieina 3-1 i'w prif elyn traddodiadol, Siapan. Dyma oedd y digwyddiad chwaraeon fwyaf yn hanes y wlad.[3]

Trefniadaeth golygu

Mae yna 44 cymdeithas bêl-droed taleithiol neu rhanbarthol sy'n aelodau o Gymdeithas Bêl-droed Tsieina.

Cystadlaethau golygu

Pêl-droed Traeth golygu

  • Pencampwriaeth Pêl-droed Traeth

Cyfeiriadau golygu

  1. "AFC Bars Israel From All Its Competitions". Reuters. The Straits Times. 16 September 1974.
  2. "Chinese Football Association". Chinaculture.org. 1955-01-03. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 2012-10-31.
  3. "Asian Cup final smashes viewing records". The AFC. 18 October 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-09. Cyrchwyd 7 June 2011.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.