Tîm pêl-droed cenedlaethol Gweriniaeth Pobl Tsieina


Tîm pêl-droed cenedlaethol Gweriniaeth Pobl Tsieina (zh|: 中国国家足球队) sy'n cynrychioli Gweriniaeth Pobl Tsieina mewn cystadleuthau ryngwladol pêl-droed y byd. Gelwir y tîm yn "Tîm Tsieina" (Tsieinieg: 中国队), the "Tîm Cenedlaethol" (Tsieinieg: 国家队) neu "Guózú" (国足, 国家足; yn orgraff pinyin: Guójiā Zúqiú Duì; yn llythrennol, "ein tîm cenedlaethol").

China PR
Llysenw(au) 中国之队 Zhōngguó zhī duì
(Team China)
龙之队 Lóng zhī duì
(Dragon's Team/Team Dragon)[1]
国足 guó zú
(National Football Team)
Is-gonffederasiwn EAFF (Dwyrain Asia)
Conffederasiwn AFC (Asia)
Hyfforddwr Marcello Lippi
Capten Zheng Zhi
Mwyaf o Gapiau Li Weifeng (112)
Prif sgoriwr Hao Haidong (41)
Cod FIFA CHN
Safle FIFA 65 increase 3 (15 Mawrth 2018)
Safle FIFA uchaf 37 (Ehagfyr 1998)
Safle FIFA isaf 109 (Mawrth 2013)
Safle Elo 70 steady (20 March 2018)
Safle Elo uchaf 18 (27 Mai 1930)
Safle Elo isaf 80 (Rhagfyr 2008)
Lliwiau Cartref
Lliwiau
Oddi Cartref
Gêm ryngwladol gynaf
 Y Philipinau 2–1 China Nodyn:Country data Republic of China (1912–1949)
(Manila, Philippines; 4 February 1913)[2]
Y fuddugoliaeth fwyaf
China 19–0 Gwam 
(Dinas Ho Chi Minh, Fietnam; 26 Ionawr 2000)
Colled fwyaf
 Brasil 8–0 China
(Recife, Brasil; 10 Medi 2012)
Cwpan FIFA y Byd
Ymddangosiadau 1 (Cyntaf yn 2002)
Canlyniad gorau Group stage, 2002
Cwpan Pêl-droed Asia
Ymddangosiadau 12 (Cyntaf yn Cwpan Pêl-droed Asia 1976)
Canlyniad gorau Ail, Cwpan Pêl-droed Asia 1984 a 2004

Sefydlwd Cymdeithas Bêl-droed Tsieina yn 1924 ac ymunodd Gweriniaeth Tsieina â FIFA yn 1931. Yn dilyn Rhyfel Cartref Tsieina ail-drefnwyd y Gymdeithas Bêl-droed gan Weriniaeth Pobl Tsieina. Parhaont yn aelodau o FIFA nes 1958 pan iddynt ymddiswyddo. Ail-ymunon nhw yn 1979.

Enillodd Tsieina yr EAFF (Cwpan Dwyrain Asia Tsieina) ddwy waith, yn 2005 a 2010 ac roeddynt yn ail yn yng Nghwpan Asia'r AFC ddwy waith yn 1984 ac yna 2004. Er i Tsieina fethu a sgorio gôl yn ei hymddangosiad gyntaf yng Nghwpan Pêl-droed FIFA yn 2002, gan golli pob gêm, teimlwyd fod cyrraedd y rowndiau terfynol yn gamp yn ei hun.

Er nad oes hanes disglair i bêl-droed Tsieina, amcangyfrifir fod 250 miliwn o bobl wedi gwylio ffeinal Cwpan Pêl-droed Asia (Cwpan AFC) yn 2004. Collodd Tsieina 3-1 i'w harch-elynion, Siapan. ond dyna oedd y digwyddiad chwaraeon fwyaf yn hanes y wladwriaeth hyd ar y dyddiad hwnnw.

Ei rheolwr ym mis Mai 2009 oedd Gao Hongbo, yna José Antonio Camacho yn Awst 2011, yna Alain Perrin ym Mawrth 2014, dychwelodd Gao Hongbo yn Chwefror 2016 gan sicrhau lle i'r tîm yn gemau Cwpan Asia, ond wedi iddynt fethu ag ennill yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd fe'i ddiswyddwyd. Yn Hydref 2016 penodwyd yr Eidalwr, Marcello Lippi fel rheolwr y tîm.

  • 1930 hyd at 1954 - Heb gystadlu
  • 1958 - Heb fynd drwyddo
  • 1962 hyd at 1978 - Heb gystadlu
  • 1982 hyd at 1994 - Heb fynd drwyddo
  • 2002 - cam gyntaf- 31eg lle
  • 2006 hyd at 2010 - Heb fynd drwyddo


Cyfeiriadau

golygu
  1. "China beat Qatar; World Cup dream still on for Team Dragon". as.com. 29 Mawrth 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Hydref 2016. Cyrchwyd 30 Medi 2016.
  2. "China matches, ratings and points exchanged". World Football Elo Ratings: China. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
  Eginyn erthygl sydd uchod am Tsieina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.