Cymdeithas Naturiaethwyr Glannau Dyfrdwy
cymdeithas gadwriaethol yng ngogledd Cymru
Mae Cymdeithas Naturiaethwyr Glannau Dyfrdwy yn gymdeithas yng Nglannau Dyfrdwy i ysgogi diddordeb mewn natur ac i warchod bywyd gwyllt yr ardal. Ffurfiwyd y gymdeithas ym 1973, a chawsant caniatâd i leoli cuddfan ar dir Gorsaf Pŵer Cei Connah ym 1974. Erbyn hyn, mae’r gymdeithas wedi creu Gwarchodfa Natur Glannau Dyfrdwy ar y safle. Trefnir teithiau i warchodfeydd eraill, darlithoedd am natur yng Nghanolfan Gymuned Cei Connah[1] a chyfarfodydd am ffotograffiaeth a chelf yng nghanolfan y gymdeithas.
Ymhlith yr adar sydd i'w gweld yn y warchodfa natur mae: gwyddau Canada, Corhwyaden a hwyaden wyllt, Pibydd Coeswerdd, Pibydd Coesgoch a phibydd tywod.[2]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y gymdeithas
- ↑ Steve Oakes. "Connah's Quay Nature Reserve, Clwyd". World Birds. Cyrchwyd 28 Medi 2020.