Cymdeithas y Gymanwlad Newydd

Cymdeithas a ymgyrchodd dros heddwch ryngwladol drwy sefydlu heddlu a thribiwnlys rhyngwladol oedd Cymdeithas y Gymanwlad Newydd (Saesneg: New Commonwealth Society).

Cymdeithas y Gymanwlad Newydd
Enghraifft o'r canlynolcarfan bwyso Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1932 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata

Sefydlu

golygu

Cafodd y gymdeithas ei sefydlu yn 1932 gan David Davies, Barwn 1af Davies (18801944) a ddaeth yn gadeirydd y gymdeithas. Roedd yn ŵyr i'r diwydiannwr David Davies, Llandinam. Yn dilyn ei ymddeoliad fel Aelod Seneddol Maldwyn yn 1929 daeth Davies i gredu bod yn amhosibl i Gynghrair y Cenhedloedd atal rhyfel ac roedd eisiau sefydlu tribiwnlys rhyngwladol i benderfynu ar anghydweld rhwng gwledydd a heddlu i orfodu gwledydd i dderbyn y dyfarniad. Cyhoeddodd lyfr The Problem of the Twentieth Century yn 1930 ym amlinellu'r syniadau hyn.

Amcanion

golygu

Yn wahanol i nifer o gymdeithasau heddwch eraill, bwriad y gymdeithas oedd defnyddio grym i atal rhyfel, gyda chyhoeddiadau yn galw am lluoedd heddwch arfog gan gynnwys awyrlu heddwch rhyngwladol[1].

Cyhoeddiadau

golygu

Cyhoeddodd y gymdeithas gylchgrawn The New Commonwealth, a llu o bamffledi a llyfrau.

Daeth y gymdeithas i ben yn 1954. Mae cofnodion, gohebiaeth a chyhoeddiadau'r gymdeithas yn rhan o Bapurau'r Arglwydd Davies yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru[2].

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jones, J Graham (Winter 2000-01). "The Peacemonger". Journal of Liberal Democrat history 29: 16-23.
  2. "Tudalennau'r Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru". 2017-09-08.