Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1885)
cymdeithas a sefydlwyd yn 1885
Mudiad gwladgarol a sefydlwyd ym 1885 oedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (Saesneg: The Society for Utilizing the Welsh Language). Fe'i sefydlwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr 1885 gyda'r nod o gael i'r iaith Gymraeg ei phriod le yn system addysg Cymru.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1885 |
- Am y mudiad cyfoes, gweler Cymdeithas yr Iaith.
Ysgrifennydd cyntaf y Gymdeithas oedd yr awdur o genedlaetholwr Beriah Gwynfe Evans, awdur y nofel ddychanol Dafydd Dafis. Roedd arweinyddion eraill yn cynnwys Dan Isaac Davies, Isambard Owen a Henry Richard ("Yr Apostol Heddwch").