Henry Richard
Gweinidog yr Efengyl gyda'r Annibynwyr a gwleidydd o Gymro oedd y Parch. Henry Richard AS (3 Ebrill 1812 – 20 Awst 1888), a adwaenid yng Nghymru fel "Yr Apostl Heddwch." Ceisiodd esbonio'r Cymry i'r Saeson.
Henry Richard | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Ebrill 1812 ![]() Tregaron ![]() |
Bu farw | 20 Awst 1888 ![]() Treborth ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, gweinidog yr Efengyl ![]() |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol ![]() |
Tad | Ebenezer Richard ![]() |
Priod | Matilda Augusta Farley ![]() |
Fe'i etholwyd yn AS Merthyr Tudful yn 1868 hyd at 1888.
BywgraffiadGolygu
Ganed Henry Richard yn Nhregaron, Ceredigion yn 1812, yn fab i'r Parch. Ebenezer Richard (1781-1837), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd goleg yn Highbury, Llundain, lle graddiodd mewn diwynyddiaeth.
Yn 1835 etholwyd ef yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr yng Nghapel Marlborough yn Old Kent Road, Llundain; ef oedd yr ail weinidog ers agor y capel yn 1826, ac aeth ati ar unwaith i ddileu dyledion adeiladu'r capel. Gwnaeth hynny'n llwyddiannus a chododd ddigon o arian i agor ysgol hefyd: y British School, Oakley Place.
Roedd yn ffigwr blaenllaw yn rhengoedd y Rhyddfrydwyr Cymreig ac yn gyfaill i'r diwygiwr radicalaidd Seisnig Richard Cobden. Yn 1868 etholwyd ef yn Aelod Seneddol Merthyr Tudful o 1868 hyd 1888. Cofir Henry Richard yn bennaf fel hyrwyddwr achos heddwch a chyd-ddealltwriaeth ryngwladol ac fel ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch am ddeugain mlynedd (1848-84). Cyfranodd yn fawr at y mudiad yn erbyn caethwasaeth ac achosion eraill hefyd.
Cyhoeddodd nifer o bamffledi a thraethodau, yn Gymraeg a Saesneg, ar bynciau mawr ei gyfnod, yn cynnwys Addysg yng Nghymru, safle'r iaith Gymraeg, Diwygio'r Tir, a Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.
Bu farw ar ei ymweliad ag Arglwydd Raglaw Môn yn Nhreborth, Bangor ar 21 Awst 1888 a cheir dwy gofeb iddo: y naill yn ei dref enedigol, Tregaron, a'r llall yw ei fedd ym Mynwent Abney Park, Llundain, lle ceir darlun ohono mewn carreg.
OrielGolygu
Dadorchuddio cofeb Henry Richard yn 1885. Ffotograff gan John Thomas.
LlyfryddiaethGolygu
Cyhoeddiadau (detholiad)Golygu
- Defensive War (1846, 1890),
- The Recent Progress of International Arbitration (1884)
- Memoirs of Joseph Sturge (1864)
- Letters on the Social and Political Condition of Wales (1866, 1884)
LlyfryddiaethGolygu
- Gwyn Griffiths, Henry Richard
- Charles S. Miall, Henry Richard M.P. (1889)
- Eleazar Roberts, Bywyd a Gwaith y diweddar Henry Richards (1902)
CyfeiriadauGolygu
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Henry Austin Bruce |
Aelod Seneddol dros Bwrdeistref Merthyr Tudful 1868 – 1888 |
Olynydd: William Pritchard Morgan |