Beriah Gwynfe Evans
Awdur yn y Gymraeg a'r Saesneg, dramodydd, newyddiadurwr a gwleidydd Cymreig oedd Beriah Gwynfe Evans (12 Chwefror 1848 – 4 Tachwedd 1927).
Beriah Gwynfe Evans | |
---|---|
Ganwyd | 12 Chwefror 1848 Nant-y-glo |
Bu farw | 4 Tachwedd 1927 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, athro, gwleidydd, dramodydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Evan Evans |
Bywgraffiad
golyguCafodd ei eni yn Nant-y-glo, Sir Fynwy yn fab i'r Parch. Evan Evans o Nant-y-glo a Mary Valentine ond symudodd i fyw i bentref Gwynfe, Sir Gaerfyrddin, gan fabwysiadu Gwynfe fel ei enw canol. Bu'n brifathro yng Ngwynfe ac yna yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin. Yng Ngwynfe y cychwynnodd y cylchgrawn poblogaidd Cyfaill yr Aelwyd, yn 1880.
Roedd yn arfer cystadlu yn yr eisteddfodau ac yn 1879 gwobrwywyd ei ddrama, 'Owain Glyndwr' yn eisteddfod Llanberis a bu'n un o arloeswyr mudiad y ddrama yng Nghymru. Wedi marw'r bardd 'Eifionydd' yn 1922 dewiswyd Beriah yn olynydd iddo fel Cofiadur yr Orsedd.[1]
Ymunodd â staff y South Wales Daily News yng Nghaerdydd yn 1887; bu'n golygu adran Gymraeg y Cardiff Times and South Wales Weekly News ac yn 1892 aeth i Gaernarfon fel rheolwr a phrif olygydd cwmni'r 'Genedl Gymreig' a'i wahanol bapurau - cwmni gwladgarol roedd David Lloyd George yn ymddiddori ynddo. Gadawodd gwmni'r Genedl yn 1895 a bu'n ohebydd i'r Liverpool Mercury a sawl papur arall, gan barhau i fyw yng Nghaernarfon. Yn 1917 penodwyd ef yn olygydd Y Tyst, cylchgrawn wythnosol yr Annibynwyr.
Ymddiddorai'n fawr mewn gwleidyddiaeth gan gymryd safbwynt cenedlaetholgar Rhamantus, fel nifer o'i gyfoeswyr. Beriah oedd ysgrifennydd cyntaf y mudiad gwladgarol Cymru Fydd ac yn ddiweddarach, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1885).
Llyfryddiaeth
golygu- Beriah Gwynfe Evans, Ystori’r Streic (Caernarfon, 1904). [Drama]
- Beriah Gwynfe Evans, Esther: Drama Ysgythrol (Caernarfon, 1914). [Drama]
- Beriah Gwynfe Evans, Caradog (Caernarfon, 1904). [Drama]
- Beriah Gwynfe Evans, The Bardic Gorsedd, its history and symbolism (Pont-y-pŵl, 1923).
- Beriah Gwynfe Evans, Chwarae-gân (Llanberis, 1879).
- Beriah Gwynfe Evans, ‘Cymro, Cymru a Chymraeg’ yn eu cysylltiad ag addysg (Lerpwl, 1889).
- Beriah Gwynfe Evans, Y Cyngor Plwyf (Caernarfon, 1894).
- Beriah Gwynfe Evans, Dafydd Dafis (Wrecsam, 1898).
- Beriah Gwynfe Evans, Y Ddwy Fil (Aberafan, 1912).
- Beriah Gwynfe Evans, Diwygwyr Cymru (Caernarfon, 1900).
- Beriah Gwynfe Evans, Glyndŵr: Tywysog Cymru (Caernarfon, 1911). (Drama)
- Beriah Gwynfe Evans, The Life Romance of Lloyd George (Llundain, 1915). Cafwyd cyfieithiadau i'r Gymraeg (Rhamant Bywyd Lloyd George; Utica, 1916) a'r Ffrangeg. (La vie de roman de Lloyd George cyf R. Lebelle, Paris 1917)
- Beriah Gwynfe Evans, Llawlyfr y Cymro ac arweinydd yr ymneillduwr i Ddeddf Addysg 1902 (Dinbych, 1903).
- Beriah Gwynfe Evans, Llewelyn ein Llyw Olaf, cerddoriaeth gan Alaw Ddu (h.y. William Thomas Rees) (Llanelli, 1983).
- Beriah Gwynfe Evans, ‘The peasantry of South Wales’, Longman’s Magazine (Gorffennaf 1885).
- Beriah Gwynfe Evans, Ymneillduaeth Cymru (mewn atebiad i Dr James, Manchester) (Treffynnon, 1901).
- Beriah Gwynfe Evans, Gwrthryfel Owain Glyndŵr (Llanberis, 1880).
- Beriah Gwynfe Evans, ‘Welsh National Drama: Lord Howard de Walden’s mistake, and how it might be rectified, I. – The Mistake’, Wales: the National Magazine for the Welsh People, VI, 35 (1914), t. 44.
- Beriah Gwynfe Evans, Map y rhyfel yng ngwledydd y Beibl yn dangos safle a symudiadau y gwahanol fyddinoedd yn eu perthynas a theiliau hanesyddol y Beibl (Aberdâr, 1916)
Amdano
golygu- E. G. Millward, ‘Beriah Gwynfe Evans : a pioneer playwright-producer’, yn (gol.) Hywel Teifi Edwards, A guide to Welsh literature: volume V, c. 1800–1900 (Caerdydd, 2000), tt. 166–185.
- Rhiannon Ifans, ‘Beriah Gwynfe Evans’, Llên Cymru, cyfrol 25 (2002), tt. 74–93.
- T. Shankland, Diwygwyr Cymru (S.I.: Seren Gomer, 1900–1904)
- E. G. Millward, ‘O’r Llyfr i’r Llwyfan: Beriah Gwynfe Evans a’r Ddrama Gymraeg’, yn (gol.) J. E. Caerwyn Williams, Ysgrifau Beirniadol, XIV (Dinbych, 1988), tt. 199–220.
- J. T. Jones, ‘Y Ddrama yng Nghymru’, Y Darian (8 Ebrill 1920), t. 8.
- E. Wyn James, "'Nes na’r hanesydd...": Owain Glyndwr a Llenyddiaeth Gymraeg y Cyfnod Modern, Rhan 3: O William Shakespeare i Beriah Gwynfe Evans’, Taliesin, cyfrol 112 (Haf 2001), tt. 96–106.
- E. Wyn James, ‘“Nes na’r hanesydd...”: Owain Glyndwr a Llenyddiaeth Gymraeg y Cyfnod Modern, Rhan 4: Beriah o’r Blaenau a Byd y Ddrama’, Taliesin, cyfrol 113 (Hydref 2001), tt. 93–100.
- J. Kitchener Davies, ‘ Yr Eisteddfod a’r Ddrama’, Heddiw, V, rhif 4 (Awst, 1939), t. 170.
- Ioan Williams, ‘Ymudiad Ddrama 1880–1911 – Beriah Evans a’r Ddrama Hanes’, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940 (Llandybie, 2006), tt. 33–42.
- D. R. Davies, ‘“Beriah” – Gwyliwr ar y Mur ein Drama’, Ford Gron, cyfrol 4, rhif 12 (Hydref, 1934), t. 280.
- Ceir hefyd ysgrifau amdano gan E. Morgan Humphreys yn Gwŷr Enwog Gynt (1953) a John Gwilym Jones yn Swyddogaeth Beirniadaeth (1977).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Cymraeg Ar-lein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.