Dan Isaac Davies
Addysgwr gwladgarol ac ymgyrchydd dros y Gymraeg oedd Dan Isaac Davies (24 Ionawr 1839 – 28 Mai 1887). Roedd yn un o sylfaenwyr y mudiad cyntaf o'r enw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ymgyrchydd brwd dros addysg ddwyieithog.
Dan Isaac Davies | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ionawr 1839 Llanymddyfri |
Bu farw | 28 Mai 1887 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro |
Brodor o blwyf Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin oedd Dan Isaac Davies. Ar ôl cael ei benodi yn brifathro Ysgol y Comin (Ysgol Stryd y Felin yn ddiweddarach) yn Aberdâr yn 1858, dechreuodd ar y gwaith o roi mwy o le ac urddas i'r iaith Gymraeg yn yr ysgol. Roedd yn annog y staff i siarad Cymraeg yn y dosbarth a hynny'n gwbl groes i'r drefn yng Nghymru. Yn 1868 cafodd ei apwyntio'n Arolygydd Ysgolion a rhoddodd hyn y cyfle iddo ehangu ei genhadaeth er gwaethaf gwrthwynebiad gan y sefydliad addysg. Mewn canlyniad goddefwyd rhywfaint o ddefnydd o'r Gymraeg mewn addysg elfennol pan dderbynwyd ei argymhellion gan y Ddirprwyaeth Frenhinol ar Addysg Elfennol yng Nghymru yn 1885.[1]
Bu'n un o sefydlwyr y mudiaid iaith gwladgarol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1885, gyda Beriah Gwynfe Evans, Isambard Owen, Henry Richard ("Yr Apostl Heddwch") ac eraill.[2] Bu farw yn 1887.
Llyfryddiaeth
golygu- Dan Isaac Davies, Tair Miliwn o Gymry Dwyieithog (1885)
- J. Elwyn Hughes, Arloeswr Dwyieithedd (1984)