Gwasanaeth cerddoriaeth cyfoes Gymraeg di-dor 24 awr y dydd yw Cymru FM. Er gwaetha'r 'FM' yn y teitl, darlledir hi ar y we yn unig ac nid ar donfeddi radio.

Sefydlwyd cymru.fm gan Marc Griffiths yn 2014. Mae Marc yn gyflwynydd ar BBC Radio Cymru ar nosweithiau Sadwrn. Dim ond cerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei ddarlledu ar Cymru FM.

Cynhwysir o bryd i'w gilydd raglenni neu bodlediadau sydd wedi eu cynhyrchu gan ysgolion neu mudiadau gwirfoddol. Mae hyn oherwydd bod y cwmni Marc Griffiths, StiwdioBox, yn cynnig gwasanaeth sefydlu radio ysgol neu ddarlledu o ddigwyddiadau arbennig megis mabolgampau blynyddol ysgol.

Mae modd gwrando ar Cymru FM ar ei gwefan neu lawrlwytho'r app ar Google Play neu App Store Apple.

Mae Radio Beca yn gwneud defnydd o lwyfan Cymru FM ac yn ystod Eisteddfod Caerdydd 2018 darlledodd Radio Yes Cymru ar lwyfan Cymru FM hefyd.

StiwdioBox golygu

Sefydlwyd Stiwdiobox yn 2009 gan Marc Griffiths. Wedi ei leoli yn ardal Caerfyrddin mae'n cynnig gwasanaethau dwyieithog i "ysgogi, diddanu ac addysgu cynulleidfaoedd wrth ddefnyddio’r dechnoleg amlgyfrwng ddiweddaraf". Mae'r cwmni'n cynnig gweithdai radio i orsafoedd radio parhaol, podledu a phrosiectau cymunedol. Mae Stiwdiobox hefyd yn gosod systemau sain a goleuadau mewn neuaddau, tafarndai, clybiau chwaraeon, ysgolion a chanolfannau cymunedol ac yn darparu offer i’w llogi ar gyfer digwyddiadau mewnol ac allanol.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu