Radio YesCymru
Gwasanaeth radio ar-lein yw Radio YesCymru. Bu ei darllediadau cyntaf yn ystod Eisteddfod Caerdydd 2018. Sefydlwyd hi gan aelodau mudiad YesCymru er mwyn hybu annibynaieth i Gymru a thrafodaeth ar annibyniaeth a chenedlaetholdeb Gymreig.
Enghraifft o'r canlynol | podcast |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | Awst 2018 |
Darlledir rhaglenni ar-lein ac nid ar donfeddi radio. Nid yw'n radio fasnachol.
Sefydlwyd Radio Yes Cymru gan Siôn Jobbins ac aelodau a chefnogwyr eraill o fudiad Yes Cymru gan gynnwys Hedd Gwynfor, Bethan Williams (cydlynydd) a Siôn Lewis (bu'n gyfrifol am greu jingls i'r rhaglenni) a Lowri 'Fron' Jones (trefnydd technegol) bu hefyd yn un o gefnogwyr a chriw technegol Radio Beca. O 2019 daeth Gaynor Jones, oedd â phrofiad fel ymchwilydd radio a theledu, yn rhan o'r tîm.
Radio Yes Cymru yn Eisteddfod Caerdydd 2018
golyguDarlledu
golyguYn ystod Eisteddfod Caerdydd darlledwyd y rhaglenni o swyddfa cwmni Indycube yn Sgwâr Mount Steward oedd o fewn gerddediad 3 munud o Faes yr Eisteddfod [1]. Darlledwy y rhaglenni drwy wefan cymru.fm. Gallwyd gwrando unai ar cymru.fm neu Radio Beca neu ar wefan Yes Cymru.
Darlledwyd y rhaglenni rhwng 5.00 - 7.00pm nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 8-10 Awst. Roedd yn bosib gwrando ar bodlediadau o'r rhaglenni hefyd.
Defnyddiwyd offer darlledu Radio Beca gan fynd drwy system ddarlledu ar-lein, cymru.fm. Darlledwyd y rhaglenni cyntaf yn y Gymraeg, ond nodwyd y bwriad i ddarlledu yn y Saesneg hefyd wedi hynny [2]
Cynnwys
golyguRoedd cynnwys rhaglenni Eisteddfod Caerdydd yn amrywiaeth o sgyrsiau a cherddoriaeth Gymraeg. Y gwesteion ar gyfer y rhaglenni oedd. Cyflwynwyd y rhaglenni gan Siôn Jobbins:
- Nos Fercher - Huw Marshall, Rhun ap Iorwerth, Huw Williams a Chris Roberts o fudiad 'Labour for Independent Wales, Begotxu Olaizola o Wlad y Basg yn trafod annibyniaeth Catalwnia; Adam Price; Mabon ap Gwynfor.
- Nos Iau - Simon Brooks, Rhys Chivers, Heledd Gwyndaf, Wil Jac Rees, Catrin Dafydd, Gwion Hallam.
- Nos Wener - Eurfyl ap Gwilym, Sophie Anne, Gareth Bonello, Llwyd Owen, Tomos Davies.
Radio YesCymru fel podlediad
golyguYn sgîl datblygiadau ym maes darlledu, symudwyd oddi ar ceisio darlledu'n fyw ac yn 2023 dechreuwyd recordio sgyrsiau ar Zoom a'u llwytho i dudalen Youtube YesCymru yn ogystal fel ffrwd podlediad ar anchor.fm sydd ers 2023 yn rhan o Spotify.
Mae'r podlediadau yn cynnwys sgyrsiau â gwesteuon amrywiol am y mudiad cenedlaethol ac annibyniaeth yn ei chyfanrwydd. Ymysg y siaradwyr bu Yr Athro Richard Wyn Jones, Liz Saville-Roberts A.S. Plaid Cymru, a Joseff Gnagbo.
Dolenni
golygu- Tudalen Radio Yes Cymru ar wefan Yes Cymru
- Tudalen Facebook Radio Yes Cymru
- Cyfrif Twitter Radio Yes Cymru
- Sianel Youtube YesCymru sy'n llwyfannu sgyrsiau Radio YesCymru