Plaid cenedlaethol Cymreig sosialaidd a ddatblygodd fel hollt o Blaid Cymru oedd Cymru Goch.

Cafodd y blaid ei ffurfio yn dilyn tranc Mudiad Gweriniaethol a Sosialaidd Cymru ac achosion llys nifer o aelodau'r mudiad yn 1982 ac roedd yn weithgar yn ystod y 1980au, 1990au a 2000au. Erbyn canol y 1990au roedd gan y blaid dros 300 o aelodau ac 13 o ganghennau ar draws Cymru.

Cyhoeddodd Cymru Goch bapur newydd o'r enw "Y Faner Goch" o 1978, cylchlythyr o'r enw "Y Fflam" a nifer o bamffledi a llyfrau am Marcsiaeth a chenedlaetholdeb Cymreig.

Etholiadau ac ymgyrchoedd golygu

Cymerodd y blaid ran yn nifer o ymgyrchoedd gan gynnwys protestiadau yn erbyn Treth y Pen a Dwr Cymru PLC. Etholwyd 3 cynghorydd yn enw'r Blaid yn 1995 a safodd ymgeisydd Cymru Goch yn etholiadau i Senedd Ewrop yn 1994 etholaeth De Ddwyrain Cymru yn erbyn Glenys Kinnock. Nid oedd y blaid yn bwriadu cymryd y sedd, a ni safodd ymgeiswyr yn enw'r blaid yn Etholiad Cyffredinol 1997.

Datganoli ac annibynniaeth golygu

Roedd y blaid yn erbyn cynllun Llywodraeth Tony Blair ar gyfer datganoli i Gymru yn 1997, ac ymunodd â grwpiau eraill i greu Cymru Unedig, mudiad o blaid senedd y bobl gyda llawer mwy o bwerau.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Barberis, Peter (2000). Encyclopedia or British and Irish Political Organisations. Pinter. ISBN 1855672642.