Cynan ap Maredudd
Roedd Cynan ap Maredudd (bu farw 1295), yn uchelwr Cymreig o Bowys ac yn arweinwr Gwrthryfel Cymreig 1294-95 yn y Canolbarth o 1294 hyd 1295. Gyda Maelgwn ap Rhys y De a Madog ap Llywelyn yn y Gogledd, roedd yn un o arweinwyr y gwrthryfel cenedlaethol yn erbyn rheolaeth y Saeson yng Nghymru.
Cynan ap Maredudd | |
---|---|
Ganwyd | 13 g |
Bu farw | 1295 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Maredudd ab Owain |
Hanes
golyguCofnodir yn y cronicl canoloesol Brut y Tywysogion fod Cynan wedi cydarwain y gwrthryfel yn y De gyda Maelgwn ap Rhys, ond er ei fod yn bosibl ei fod wedi cynorthwyo Maelgwn yn y de, mae'r cyrchoedd a gysylltir a'i enw i gyd wedi eu lleoli yn y Canolbarth. Gwyddys iddo ymosod ar gastell Buallt, ac yn nes ymlaen ceisiodd gipio castell Cefnllys.
Pan ddiffygiodd y gwrthryfel cenedlaethol yn 1295, cafodd Cynan ei ddal a'i ddienyddio wedyn gan y Saeson yn Amwythig.
Gweler hefyd
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau
golygu- John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992)
- Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon (Peniarth Ms. 20) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1941).