Llanfair-ym-Muallt

Tref a chymuned yng nghanolbarth Powys, Cymru, yw Llanfair-ym-Muallt,[1] weithiau Buallt (Saesneg: Builth Wells neu Builth). Saif ar lannau Afon Gwy.

Llanfair-ym-Muallt
Mathtref farchnad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanfair ym Muallt Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.14°N 3.41°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO035505 Edit this on Wikidata
Cod postLD2 Edit this on Wikidata
Map
Mae hon yn erthygl am y dref ym Mhowys. Am y deyrnas gynnar a chantref, gweler Buellt.

Yr enw golygu

Mae'n debyg mai sillafiad gwreiddiol Buallt oedd Buellt (am ei bod yn gorwedd yn y cantref canoloesol Buellt), sef bu a gwellt sef porfa gwartheg. Yr un bu sydd yn buwch, bustach a buarth ac roedd gwellt yn wreiddiol yn gallu golygu porfa fel ag yn glaswellt. Llurguniad ar y gair Buallt yw'r Saesneg Builth.

Hanes golygu

Tyfodd y dref o gwmpas y castell anferth a godwyd yno o tua diwedd y 1090au ymlaen. Gerllaw, ceir tomen mwnt a beili o'r enw Castell Buallt.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfair-ym-Muallt (pob oed) (2,568)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair-ym-Muallt) (385)
  
15.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair-ym-Muallt) (1502)
  
58.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanfair-ym-Muallt) (353)
  
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt ym 1993. Am wybodaeth bellach gweler Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993

Enwogion golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]