Cynffon yw'r gair a ddefnyddir i ddisgrifio y rhan olaf o gorff anifail, yn arbennig rhan ystwyth sydd wedi ei gysylltu i ben ôl corff yr anifail.

Cynffon
Mathappendage, strwythur o fewn anifail Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gan y rhan fwyaf o adar a physgod gynffon, er enghraifft. Mae cynffon bluog (a elwir colen) gan adar sydd yn eu cynorthwyo i hedfan, ar y llaw arall mae cynffon pysgodyn (h.y. yr asgell gynffonnol) yn ei helpu i nofio. Mae gwartheg a cheffylau yn ysgwyd eu cynffon i fwrw pryfed oddi ar eu cyrff. Pan fo ci yn ysgwyd yn siglo ei gynffon mae'n arwydd ei fod yn hapus, ond mae cath yn siglo ei chynffon pan mae hi mewn tymer ddrwg. Bydd y wiwer er enghraifft yn cyrlio ei chynffon amdani er mwyn ei chadw yn gynnes. Mae cathod yn gwneud hyn hefyd. Mae rhai mathau o fwnciod yn hongian wrth eu cynffonnau.

Oriel delweddau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am cynffon
yn Wiciadur.