Cynghanedd draws
Math o gynghanedd; nodwedd hynafol mewn barddoniaeth Gymraeg yw'r gynghanedd draws. Mae egwyddorion sylfaenol y gynghanedd hon yn debyg i'r gynghanedd groes, ond mewn llinell o gynghanedd draws, caniateir hepgor rhai llythrennau rhwng yr orffwysfa a'r ail brif acen. Dyma un enghraifft o Gynghanedd Draws:
- Llew o beth | yw tad llo bach.
Yma, cyfatebir y cytseiniaid cyn yr orffwysfa (ll, b, (th)) gan yr un cytseiniaid ar yr ail brif acen; (ll, b, (ch)). Sylwer bod y cytseiniaid yn y gair "tad" yn cael eu hanwybyddu, sydd yn gwneud y llinell yn llinell o gynghanedd draws. Cafodd yr enw hwn gan fod y gyfatebiaeth gytseiniol yn mynd "ar draws" y cytseiniaid ar ôl yr orffwysfa.
Am ymdriniaeth lawn a chynhwysfawr, gweler y llyfryddiaeth safonol isod.
Enghreifftiau eraill
golygu- Mae haul mewn cwrw melyn
- Ar fin y dŵr, derfyn dydd
- Heb ofal, ond bihafio (Gerallt Lloyd Owen)
- Gwn iddo adrodd ganwaith (Cymwynaswr gan Ceri Wyn Jones). Yma mae'r gynghanedd yn dweud wrth y darllenydd ble i gymryd saib (yr orffwysfa), sef ar ôl y gair "Gwn" yn hytrach nag ar ôl "iddo".
Llyfryddiaeth
golygu- John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
- Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Argraffiad diwygiedig, Cyhoeddiadau Barddas, 2007)
- Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)