Math o gynghanedd yw'r gynghanedd groes, nodwedd hynafol mewn barddoniaeth Gymraeg. Prif nodwedd y gynghanedd hon yw bod yr holl gytseiniaid ar ôl yr orffwysfa yn cael eu hateb gan yr un cytseiniaid, yn yr un drefn, o flaen yr orffwysfa.

Goddefir un "n wreiddgoll" yn y gynghanedd hon, sef hen oddefiad sy'n caniatáu i'r bardd i beidio ag ateb un "n" ar ddechrau'r llinell.

Dyma enghraifft o gynghanedd groes gytbwys acennog:

  • Gwaed y Groes a gwyd y graith
(g d gr' / g d gr')

Cyfatebir y cytseiniaid o flaen yr orffwysfa gan yr un cytseiniaid ar ôl yr orffwysfa.

Enghreifftiau eraill

golygu
  • Glyn Dŵr y galon darian
  • Llariaidd eu gwên lle roedd gwŷr
  • Marw i fyw mae'r haf o hyd

Llyfryddiaeth

golygu