C.P.D. Tref Dinbych

clwb pêl-droed yng Nghymru

Clwb pêl-droed o dref Dinbych, Sir Ddinbych ydy Clwb Pêl-droed Tref Dinbych (Saesneg: Denbigh Town Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.

C.P.D Tref Dinbych
Enw llawn Clwb Pêl-droed Tref Dinbych
Sefydlwyd 1880[1]
Maes Central Park
Cynghrair D3
2018-2019 Cynghrair Undebol D2, 15fed

Ffurfiwyd y clwb ym 1880[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref yn Central Park.

Hanes golygu

Chwaraeodd y clwb yng Nghwpan Cymru am y tro cyntaf yn nhymor 1882-83 ond daeth llwyddiant cyntaf y clwb ym 1923-24 yng Nghwpan Amatur Cymru wrth iddynt guro Clwb Athletic Lovell o Gasnewydd yn y rownd derfynol yn Yr Wyddgrug.[2]

Ymunodd y clwb â Chynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) ym 1957-58[3] cyn dod yn un o glybiau gwreiddiol Cynghrair Clwyd ym 1974-75[4]. Cafwyd dyrchafiad i'r Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1997-98[5].

Llwyddodd y clwb i gyrraedd rownd derfynol un o prif gystadlaethau pêl-droed Cymru am y tro cyntaf yn 2015-16 wrth gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cynghrair Cymru cyn colli yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Anrhydeddau golygu

  • Cwpan Amatur Cymru
    • Enillwyr: 1923-24
  • Cwpan Cynghrair Cymru

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "History of Denbigh Town FC". Denbigh Town.
  2. "Welsh Amateur Cup Finals". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Welsh National League (Wrexham Area) 1957-58". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Clwyd League History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Cymru Alliance 1997-98". Unknown parameter |published= ignored (help)
Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl