Mae Castell Brychan yn hen goleg y ddiwinyddiaeth Gatholig. Mae wedi ei lleoli ar ben allt serth i'r gogledd o Aberystwyth, Ceredigion ac mae golygfa bendigedig i'w gael o'i ffenestri o Gastell Aberystwyth, y traeth a'r holl dref bron.

Castell Brychan
Math, college building, adeilad swyddfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.42004°N 4.08114°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN5857582261 Edit this on Wikidata
Map
Castell Brychan fel y mae erbyn heddiw.

Fe'i hadeiladwyd fel tŷ preifat yn wreiddiol, ar gyfer y cyfansoddwr, David Jenkins. Cafodd ei enwi'n Gastell Brychan oherwydd gwreiddiau David Jenkins - roedd yn frodor o Drecastell, sir Frycheiniog. Hefyd, mae'r enw'n addas i'r adeilad oherwydd y tŵr a'r colofnau sy'n rhan o'r tŷ gwreiddiol.

Trodd yn goleg yn 1923 a gelwyd hi yn St Mary's College, adnabyddwyd hi hefyd fel y Diocesan College, Aberystwyth. Roedd Michael McGrath yn Rheithor yn y coleg cyn iddo ddod yn Archesgob Gatholig Rhufeinig Caerdydd. Bu Saunders Lewis hefyd yn athro yno am gyfnod. Ymestynwyd y tŷ yn sylweddol tra'n goleg, gan ychwanegu adain newydd yn cynnwys capel, ar ochr dde'r tŷ gwreiddiol. Ymestynwyd ymhellach gan Gyngor Llyfrau Cymru, sy'n defnyddio'r adeilad fel pencadlys hyd heddiw.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.