Cyngres yr Undebau Llafur
Canolfan undebau llafur cenedlaethol, a ffederasiwn o undebau llafur yn y Deyrnas Unedig yw Cyngres yr Undebau Llafur (CULl). Cynrychiolant y mwyafrif o undebau llafur. Mae yna 48 aelod cyswllt gyda chyfanswm o tua 5.5 miliwn o aelodau, gyda thua hanner ohonynt wedi'u cynrychioli gan Unite neu UNISON.[1]
Enghraifft o'r canlynol | national trade union center |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1868 |
Lleoliad yr archif | University of Maryland Libraries |
Aelod o'r canlynol | European Trade Union Confederation |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Llundain |
Gwefan | https://www.tuc.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguSefydlwyd Cyngres yr Undebau Llafur yn 1868, pan daeth grŵp o undebwyr llafur o bob rhan o’r DU i Fanceinion i gynnal y gyngress cyntaf yn Sefydliad y Mecanyddion. Pasiodd y Gyngres gyntaf hon benderfyniad "ei bod yn ddymunol iawn y dylai crefftau'r Deyrnas Unedig gynnal cyngres flynyddol, at y diben o ddod â'r crefftau i gynghrair agosach, ac i weithredu ym mhob mater Seneddol sy'n ymwneud â buddiannau cyffredinol y dosbarthiadau gweithiol ".
Tyfodd aelodaeth a dylwad y Gyngres a'r undebau cysylltiol y 50 mlynedd nesaf. Yn ei ddegawdau cyntaf, canolbwyntiodd y TUC ar ddylanwadu ar bolisi'r llywodraeth, ond o'r 1920au ymlaen cymerodd ran fwy gweithredol mewn materion diwydiannol, gan chwarae rhan allweddol wrth gydlynu streic gyffredinol 1926. O ganlyniad ymosodiadau gan gyflogwyr ar undebau gan ddefnyddio'r gyfraith, gan gynnwys dyfarniad yn erbyn yr undeb yn streic cwmni rheilffordd y Taff Vale Railway yn 1902, penderfynodd y Gyngres i sicrhau cynrychiolaeth oedd yn gyfeillgar i undebau yn Senedd y DU. Enillodd Pwyllgor Cynrychiolaeth Lafur, sef rhagflaenydd y Blaid Lafur, 29 sedd yn etholiad cyffredinol 1906.[2]
Strwythur
golyguY gyngres flynyddol yw corff penderfynu CULl, sy'n digwydd ym mis Medi. Yn y cyfnodau cyn bod y cyngresi'n cyfarfod, gwneir penderfyniadau gan y Cyngor Cyffredinol sy'n cyfarfod bob yn ail fis. Mae seddi cadw ar y Cyngo Cyffredinol ar gyfer yr undebau mawr gyda etholiadau am y llefydd eraill a rhai seddi cadw ar gyfer menyow, gweithwyr croen ddu, gweithwyr gydag anableddau a gwethwur hoyw nue drawsrhywiol. Mae Llywydd a thîm gweithredol yn cael eu hethol gan aelodau'r Cyngor Cyffredinol.
Cafodd Francis o'Grady ei hethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol, sef pennaeth gweihredol y Gyngress yn 2013, y fenyw cyntaf i ddal y swydd.[1]
Lloegr, Cymru a'r Alban
golyguMae Cyngres yr Undebau Llafur yn cynrychioli gweithwyr yng Nghymru a Lloegr. Yn Lloegr mae strwythur rhanbarthol gyda chyngres ar gyfer
- Llundain, dwyrain Lleogr a de-ddwyrain Lloegr
- Canolbarth Lloegr
- Gogledd Lloegr
- Gogledd orllewin Lloegr
- De orllewin Lloegr
- Swydd Efrog ac ardal yr Afon Humber
Cafodd Cyngres yr Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) ei sefydlu yn 1974 ac er ei fod yn rhan o Gyngres yr Undebau Llafur, mae'n meddu ar fwy o gyfrifoldebau ac annibyniaeth na'r rhanbarthau yn Lloegr, gan gynnwys cyfrifoldebau am faterion sydd wedi cael eu datganoli i Senedd Cymru a chydweithio gyda Llywodraeth Cymru.[3][4]
Mae Cyngres yr Undebau yn yr Alban yn fudiad annibynnol.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "TUC: Trades Union Congress". www.tuc.org.uk. Cyrchwyd 2020-05-05.
- ↑ Wrigley, Chris (2009-07-27). "Trade unionists and the Labour Party in Britain: the bedrock of success" (yn en). Revue Française de Civilisation Britannique. French Journal of British Studies 15 (XV-2): 59–72. doi:10.4000/rfcb.1138. ISSN 0248-9015. http://journals.openedition.org/rfcb/1138.
- ↑ Chief, Drupal (2018-12-18). "Ynglŷn â TUC Cymru". www.tuc.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-05.
- ↑ "T.U.C for England" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-05.
- ↑ "Scottish TUC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-02. Cyrchwyd 2020-05-05.