Cynwrig Hir

Uchelwr o Eifionydd yn nheyrnas Gwynedd (blodeuai yn ystod yr 1090au).

Uchelwr o Eifionydd yn nheyrnas Gwynedd oedd Cynwrig Hir (blodeuai yn ystod yr 1090au). Yn ôl Hanes Gruffudd ap Cynan, a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1160 yn oes Owain Gwynedd, Cynwrig a ryddhaodd Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd, o garchar yng Nghaer.

Cynwrig Hir
Ganwyd11 g Edit this on Wikidata
Eifionydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd1093 Edit this on Wikidata
Swyddbonedd Edit this on Wikidata

Rhyddhau Gruffudd ap Cynan golygu

Gyrfa helbulus a gafodd y brenin Gruffudd ap Cynan, er iddo lwyddo yn y diwedd i adfer sofraniaeth Gwynedd. Ar ddiwedd y 1070au a dechrau'r 1080au roedd y Normaniaid yn pwyso ar Wynedd, a chymerwyd Gruffudd yn garcharor, trwy ystryw meddai ei fywgraffydd, gan Hugh d'Avranches, Iarll Caer a'i garcharu yng nghastell Caer.

Erbyn 1094 yr oedd Gruffudd yn rhydd. Dywed ei fywgraffiad ei fod mewn gefynnau ym marchnad Caer pan ddaeth Cynwrig Hir, "gŵr ieuanc o Eifionydd", a mintai o wŷr Eifionydd ar ymweliad a'r ddinas a'i weld. Gwelodd Cynwrig ei gyfle pan oedd y bwrgeisiaid yn bwyta a chododd Gruffudd ar ei ysgwyddau a'i gario o'r ddinas (am ei fod yn wan ar ôl bod mor hir yn y carchar). Dychwelodd Cynwrig a'i wŷr i'w gartref yn Eifionydd lle cafodd Gruffudd loches a chyfle i gael ei nerth yn ôl. Roedd y Normaniaid yn chwilio Gwynedd i geisio dal y brenin eto, felly un noson aeth Cynwrig ag ef drosodd i Ynys Môn lle cafodd ei guddio ym mhlas gŵr o'r enw Sanddef fab Aire. Ychydig o ddyddiau ar ôl hynny, ceisiodd Gruffudd ddianc ar long i Ddulyn, ei dinas enedigol, ond cododd y gwynt yn ei erbyn gan yrru'r llong i'r de a dechrau ar gyfnod o grwydro cyn dychwelyd i Wynedd eto. Llwyddodd y tro yma i gyrraedd Iwerddon ar ysgraff o Aberdaron. Ni wyddom os bu gan Cynwrig Hir ran yn yr anturiaethau olaf hyn.

Ffynhonnell golygu

Hanes Gruffudd ap Cynan yw'r unig ffynhonnell am hanes Cynwrig. Y golygiad safonol yw:

D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Gwasg Prifysgol Cymru, 1977). (Ceir yr hanes ar tt. 18-19).