Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws

Un o'r15 gweriniaeth oedd sail yr Undeb Sofietaidd. Aelod o'r Cenhedloedd Unedig yn 1945, a'r un ffiniau ar gyfer Belarws annibynnol ers 1991.

Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws[1] hefyd Gweriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Belarws (Belarwseg: Белару́ская Саве́цкая Сацыялісты́чная Рэспу́бліка; talfyriad cyffredin Saesneg: BSSR) oedd olynydd Gweriniaeth Sosialaidd Belarws a oedd, ei hun, yn olynydd o fath i Weriniaeth Pobl Belarws. Sefydlwyd Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws ar 1 Ionawr 1919 ac roedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd nes dymchwel hwnnw yn 1991.

Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws
Enghraifft o'r canlynolgweriniaethau'r Undeb Sofietaidd, gwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Daeth i ben25 Awst 1991 Edit this on Wikidata
Label brodorolБеларуская Савецкая Сацыялістычная Рэспубліка Edit this on Wikidata
Rhan oYr Undeb Sofietaidd, Lithuanian–Byelorussian Soviet Socialist Republic, Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Ionawr 1919 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganSocialist Soviet Republic of Byelorussia, Lithuanian–Byelorussian Soviet Socialist Republic Edit this on Wikidata
Olynwyd ganYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddGomel Governorate Edit this on Wikidata
OlynyddBelarws Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCytundebau Belovezh, Yr Undeb Sofietaidd, Treaty on the Creation of the Union of Soviet Socialist Republics, Y Cenhedloedd Unedig, UNESCO Edit this on Wikidata
Enw brodorolБеларуская Савецкая Сацыялістычная Рэспубліка Edit this on Wikidata
RhanbarthLithuanian–Byelorussian Soviet Socialist Republic, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws, 1951–1991

Cyhoeddwyd Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws yn Smolensk ar 1 Ionawr 1919, ond ar ôl gorchfygiad dros Gweriniaeth Pobl Belarws a oedd yn ymgais ar sefydlu gweriniaeth annibynnol ag egwyddorion rhyddfrydiaeth yn debyg i'r hyn a sefydlwyd yn llwyddiannus yr un adeg yn Estonia, Latfia a Lithwania. Trosglwyddwyd prifddinas y weriniaeth Sofietaidd i Minsg ar 9 Ionawr 1919, ac atodwyd rhanbarth Smolensk yn ddiweddarach i Weriniaeth Sofiet Sosialaidd Rwsia (RSSR).[2]

Ar 12 Tachwedd 1939, atodwyd rhan o ogledd-ddwyrain Gwlad Pwyl a feddiannwyd gan fyddin Fyddin Goch yr Undeb Sofietaidd ym mis Medi 1939 i SSR Belarwsia (rhan o'r Voivodeniaeth Podlaskie presennol, rhan o Hrodna, oblastau Brest, Minsk a Vitebsk bresennol). Roedd hyn yn sgil Cytundeb Molotov–Ribbentrop rhwng yr Almaen Natsiaidd a'r Undeb Sofietaidd dan Stalin. Dyna ddaeth yn ffiniau Gweriniaeth annibynnol Belarws heddiw. Yn rhyfedd ddigon, roedd gan GSS Belarws (fel Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Wcráin) sedd fel gwlad annibynnol yn y Cenhedloedd Unedig o 1945 ymlaen. Gwnaed hyn er mwyn i Stalin gael rhagor o bleidleisiau i gefnogi'r Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer.

Ar 27 Gorffennaf 1990, datganodd Goruchaf Sofiet SSR Belarws sofraniaeth SSR Belarws ac ailenwyd yn Weriniaeth Belarws ar 25 Awst 1990 wrth i reolaeth ganolog o'r Undeb Sofietaidd ddadfeilio. Yn 1991 cafwyd cydnabyddiaeth ryngwladol i annibyniaeth Belarws fel gweriniaeth rydd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Soviet Socialist Republic". Termau.Cymru. Cyrchwyd 1 Ebrill 2022.
  2. "The emergence of the Belorussian Soviet Socialist Republic". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 16 Ebrill 2022.
  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Undeb Sofietaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Felarws. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.