Cyril Radcliffe, Is-iarl 1af Radcliffe

Roedd Cyril John Radcliffe, Is-iarll 1af Radcliffe (30 Mawrth 1899 – 1 Ebrill 1977) yn Gymro, yn gyfreithiwr ac yn Arglwydd y Gyfraith sy'n fwyaf adnabyddus am ei rôl yn creu ffiniau yr isgyfandiroedd. Gwasanaethodd fel canghellor cyntaf Prifysgol Warwick o'i sefydlu ym 1965 hyd at 1977.

Cyril Radcliffe, Is-iarl 1af Radcliffe
Radcliffe ym Mai 1949
GanwydCyril John Radcliffe Edit this on Wikidata
30 Mawrth 1899 Edit this on Wikidata
Llanychan Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ebrill 1977 Edit this on Wikidata
Hampton Lucy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddyr Arglwyddi Apêl, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PriodAntonia Mary Roby Benson Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Cymrawd yr Academi Brydeinig, KBE Edit this on Wikidata

Cefndir, addysg a gyrfa gynnar golygu

Ganed Radcliffe yn Llanychan, sir Ddinbych, yn fab i gapten ym myddin Lloegr. Roedd ei daid ar ochr ei fam yn Llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr rhwng 1890 a 1891.

Addysgwyd Radcliffe yn ysgol fonedd Haileybury and Imperial Service College yn Swydd Hertford. Fe'i consgriptiwyd i'r Rhyfel Byd Cyntaf ond cyfyngodd ei olwg gwael ar y dewisiadau ar gyfer gwasanaeth felly fe'i neilltuwyd i'r Royal Pioneer Corps. Ar ôl y Rhyfel, mynychodd Coleg Newydd, Rhydychen fel ysgolhaig, a derbyniodd radd Dosbarth Cyntaf mewn literae humaniores (sef 'y Clasuron') yn 1921. Yn 1922 etholwyd ef i gymrodoror yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen lle enillodd Ysgoloriaeth y Gyfraith Eldon yn 1923.

Galwyd ef i'r bar gan y Deml Fewnol yn 1924, ac ymunodd â siambrau Wilfred Greene, a ddaeth yn ddiweddarach yn Feistr y Rholiau. Bu'n ymarfer ym mar y Siawnsri, ac fe'i penodwyd yn Gwnsler y Brenin yn 1935.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymunodd Radcliffe â'r Weinyddiaeth Wybodaeth gan ddod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol arni erbyn 1941, lle bu'n cydweithio'n agos â'r Gweinidog Brendan Bracken. Ym 1944 fe'i gwnaed yn Farchog-Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (KBE). Dychwelodd at y bar yn 1945.

Pwyllgorau Ffiniau India golygu

Penodwyd Radcliffe yn gadeirydd y ddau bwyllgor ffiniau a sefydlwyd gyda phasio Deddf Annibyniaeth India, gŵr na fu erioed i'r dwyrain o Baris. Cafodd Radcliffe y dasg o lunio’r ffiniau ar gyfer y cenhedloedd newydd Pacistan ac India mewn ffordd a fyddai’n gadael cymaint o Sikhiaid a Hindwiaid yn India a Mwslemiaid ym Mhacistan â phosib. Dim ond 5 wythnos a roddwyd iddo i gwblhau'r gwaith.[1] Cyflwynodd Radcliffe ei fap a oedd yn cynnwys y rhaniadau newydd ar 9 Awst 1947, map a oedd yn gwahanu Punjab a Bengal bron yn eu hanner. Cyhoeddwyd y ffiniau newydd yn ffurfiol ar 17 Awst 1947 – tridiau ar ôl annibyniaeth Pacistan a deuddydd ar ôl i India ddod yn annibynnol oddi wrth Lloegr.[2]

Canlyniad ymdrechion Radcliffe oedd y gwelwyd tua 14 miliwn o bobl - tua saith miliwn o bob ochr - yn ffoi dros y ffin pan ddarganfuon nhw fod y ffiniau newydd yn eu gadael yn y wlad "anghywir". Yn y trais a ddilynodd ar ôl annibyniaeth, credir i rhwng rhai cannoedd o filoedd a dwy filiwn farw,[3] a chafodd miliynau rhagor eu hanafu. Ar ôl gweld yr anhrefn yn digwydd ar ddwy ochr y ffin, gwrthododd Radcliffe ei gyflog o 40,000 rupees (£3,000 o bunnoedd ar y pryd) a llosgodd ei holl bapurau mewn cywilydd.[4] Fe'i gwnaed yn Farchog Croes Fawr Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1948.

Wrth siarad am ei brofiad fel cadeirydd y pwyllgorau ffiniau, dywedodd yn ddiweddarach-

“Doedd gen i ddim dewis arall, roedd yr amser oedd ar gael i mi mor fyr fel na allwn wneud dim arall. O ystyried yr un cyfnod byddwn yn gwneud yr un peth. Fodd bynnag, pe bai gennyf ddwy i dair blynedd, efallai y byddwn wedi gwella ar yr hyn a wneuthum.”[1]

Cyfeiriodd y bardd WH Auden at rôl Radcliffe yn rhaniad India a Phacistan yn ei gerdd 1966 "Partition".[5]

Gyrfa ddiweddarach golygu

Ym 1949 gwnaed Radcliffe yn Lord of Appeal in Ordinary, fe'i derbyniawyd i'r Cyfrin Gyngor, a gwnaed ef yn arglwydd am oes, fel Barwn Radcliffe, Werneth yn Swydd Gaerhirfryn. Dim cyfeiriad at Ddyffryn Clwyd! Yn anarferol, nid oedd wedi bod yn farnwr o'r blaen. Yn y 1940au a'r 1950au bu'n cadeirio cyfres o ymchwiliadau cyhoeddus yn ychwanegol at ei ddyletswyddau cyfreithiol a pharhaodd i ddal nifer o swyddi hyd at ei farwolaeth. Bu'n gadeirydd y Pwyllgor Ymchwilio i Ddyfodol Sefydliad Ffilm Prydain (1948), ac arweiniodd ei argymhellion at foderneiddio'r BFI yn y cyfnod ar ôl y rhyfel.

Yn 1962 gwnaed ef yn arglwydd etifeddol fel Is-iarll Radcliffe, o Hampton Lucy yn Swydd Warwick.

Bywyd personol golygu

Priododd ag Antonia Mary Roby, merch Godfrey Benson, Barwn 1af Charnwood a chyn-wraig John Tennant, ym 1939.  Bu farw yn Ebrill 1977, yn 78 oed.  Ni chawsant blant a daeth is-iarllaeth Radcliffe i ben ar ei farwolaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (yn en) Know Your Constitution Quiz - EP 05, https://www.youtube.com/watch?v=PmoZ2O5TN2g, adalwyd 2021-02-18
  2. Pillallamari, Akhilesh (19 August 2017). "70 Years of the Radcliffe Line: Understanding the Story of Indian Partition". The Diplomat. The Diplomat. Cyrchwyd 21 January 2021.
  3. Talbot, Ian; Singh, Gurharpal (2009), The Partition of India, Cambridge University Press, ISBN 978-0-521-85661-4, https://books.google.com/books?id=utKmPQAACAAJ
  4. thehindu.com; The Hindu; adalwyd 16 Tachwedd 2022.
  5. Auden, W. H. (1976). Collected Poems. tt. 604.

Darllen pellach golygu