Llanychan

Pentref bychan gerllaw Llandyrnog, Sir Ddinbych

Eglwys a phentreflan yw Llanychan("Cymorth – Sain" ynganiad ) (neu Eglwys Hychan Sant), a saif rhwng Rhewl a Gellifor, Rhuthun (Cyfeirnod OS: SJ 114621). Ceir rheithordy o frics coch o'i blaen, ac felly anodd yw gweld yr eglwys o'r ffordd fawr, a llond llaw o dai anedd eraill. Enwyd yr eglwys hynafol hon ar ôl Sant Hychan a fu'n byw ar y safle yn 450 OC, ac mae'r cofnod cyntaf o'r eglwys bresennol yn mynd yn ôl i 1254. Roedd yma ysgol hyd at ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

Llanychan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.149°N 3.326°W Edit this on Wikidata
Map

Yma y ganwyd Cyril Radcliffe, Is-iarl 1af Radcliffe a ddaeth yn Gadeirydd y pwyllgor a greodd ffiniau newydd India, Bangladesh a Pacistan. Yn y trais a ddilynodd ar ôl annibyniaeth, credir i rhwng rhai cannoedd o filoedd a dwy filiwn farw,[1] a chafodd miliynau rhagor eu hanafu.

Plas Coch, Llanychan.

Mae'n blwyf o 567 erw - plwyf lleiaf Esgobaeth Llanelwy. Mae'r pentref oddeutu tair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ruthun.

Cofrestrwyd yr eglwys yn Gradd II* ar 19 Gorffennaf 1966 gan Cadw; rhif cofrestru: 787. Mae distiau pren yn y to yn dyddio o'r 16C. Dim ond dwy eglwys yng Nghymru sydd wedi eu henwi ar ôl Sant Hychan, a dyma un ohonynt. Sonir am yr eglwys hon gyntaf yng Nghofnodion Treth Norwich yn 1254.[2] Mae ei llan gylchog uchel yn nodedig iawn ac yn brawf y bu yma unwaith Eglwys Geltaidd, gynharach. Mae Eglwys Sant Hychan yn debyg iawn o ran arddull i Eglwys Sant Cynhafal, ond ei bod yn llawer llai ac nid oes iddi ddau gorff, nodwedd bensaernïol gyffredin iawn yn Nyffryn Clwyd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Talbot, Ian; Singh, Gurharpal (2009), The Partition of India, Cambridge University Press, ISBN 978-0-521-85661-4, https://books.google.com/books?id=utKmPQAACAAJ
  2. "Gwefan Eglwys Llanychan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-26. Cyrchwyd 2009-03-21.