Agor y brif ddewislen

Hanesydd Groeg oedd Herodotus neu Herodotus o Halicarnassus (Groeg Hρόδοτος hλικαρνoσσεύς) (c.485 CC - 425 CC), a aned yn Halicarnassos, trefedigaeth Roegaidd ar arfordir deheuol Asia Leiaf. Cicero a'i alwodd yn "Dad Hanes" am y tro cyntaf.

Herodotus
Herodotus Massimo Inv124478.jpg
Ganwyd c. 0484 CC Edit this on Wikidata
Halicarnassus Edit this on Wikidata
Bu farw Thurii Edit this on Wikidata
Man preswyl Halicarnassus, Samos Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Halicarnassus Edit this on Wikidata
Galwedigaeth hanesydd, gwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Histories Edit this on Wikidata

Pan ddaeth y dinasoedd Groegaidd yn Asia Leiaf yn rhydd o reolaeth Persia, teithiodd Herodotus yn Asia Leiaf, ynysoedd Môr Aegea, Gwlad Groeg, Macedonia, Thrace, arfordir y Môr Du, Persia, Tyre a Ffenicia, yr Aifft a Cyrenaica. Yn 443 CC aeth i'r drefedigaeth Athenaidd newydd Thurii, ar Gwlff Tarentino. Oddi yno ymwelodd â Sisili a sawl dinas yn ne'r Eidal. Roedd yn ddyn chwilfrydig iawn, a chasglai bob math o ddeunydd yn ymwneud â hanes, mytholeg, daearyddiaeth, ethnoleg ac archaeoleg yr Henfyd a'r tu hwnt.

Ei fwriad oedd cyfansoddi llyfr hanes yn olrhain cwrs ac achosion y rhyfeloedd rhwng y Groegwyr a'r barbaroi (barbariaid neu estronwyr). Mae ei lyfr enwog yr Historiai yn dechrau gyda chwncwest y dinasoedd Groegaidd yn Asia Leiaf gan yr ymerodr Persiaidd Croesus. Wedyn cawn hanes Lydia, Persia, Babilon a'r Hen Aifft. Mae'r llyfr yn gorffen â hanes y Rhyfeloedd Persiaidd (500 CC - 479 CC).

Argraffiadau ar-leinGolygu