Cysylltiadau rhwng Gwlad Belg a'r Deyrnas Unedig
Mae cysylltiadau gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd cyfeillgar rhwng Gwlad Belg a'r Deyrnas Unedig. Mae'r ddwy yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, NATO a'r Cenhedloedd Unedig. Cynhelir y Gynhadledd Felgaidd-Brydeinig flynyddol ar yn ail yng Ngwlad Belg a'r DU ers 2000 i drefnu trafodaethau rhwng gwleidyddion, academyddion a gweithwyr proffesiynol ar faterion allweddol sydd yn effeithio ar Wlad Belg, y Deyrnas Unedig, a'r ddwy wlad trwy Ewrop.[1]
Gwlad Belg | Y Deyrnas Unedig |
O ran cysylltiadau masnachol, y DU yw cyflenwr a marchnad allforio bedwerydd fwyaf Gwlad Belg, a Gwlad Belg yw marchnad allforio chweched fwyaf y DU.[2]
Heddiw, mae tua 50 000 o ddinasyddion Prydeinig yn byw yng Ngwlad Belg, a tua'r unfaint o Felgiaid yn byw yn y Deyrnas Unedig.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Country Profiles: Belgium. Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Adalwyd ar 15 Rhagfyr, 2007.
- ↑ (Saesneg) Countries Listing: Belgium. UK Trade & Investment. Adalwyd ar 15 Rhagfyr, 2007.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Cynhadledd Felgaidd-Brydeinig 2007