Cytundeb Heddwch Caerwrangon

Cytundeb heddwch rhwng Llywelyn Fawr a Harri III o Loegr a arwyddwyd ym mis Mawrth, 1218, oedd Cytundeb Heddwch Caerwrangon.[1]

Cytundeb Heddwch Caerwrangon

Daeth y cytundeb ar ôl cyfres o fuddugoliaethau gan Lywelyn Fawr wrth iddo ymestyn ei awdurdod dros rannau helaeth o Ogledd Cymru a'r Canolbarth. Cynhaliwyd y drafodaeth gyda Ednyfed Fychan yn cynrychioli Llywelyn a legat y Pab, Guala, yn gweithredu fel cyfryngydd rhwng y ddwy blaid. Arwyddwyd y cytundeb yng Nghaerwrangon rywbryd ym mis Mawrth, 1218.[1]

Cytundeb dros dro oedd Cytundeb Heddwch Caerwrangon. O safbwynt Llywelyn rhoddai'r cyfle i gadarnhau ei awdurdod a pharatoi am symudiadau nesaf brenin Lloegr. Yn ôl termau'r cytundeb, bu rhaid iddo dderbyn awdurdod ffiwdal ffurfiol brenin Lloegr, ond peth cyffredin oedd hynny yn yr Oesoedd Canol gyda brenhinoedd yn ddeiliad i frenhinoedd eraill a fyddai yn eu tro yn arglwyddi mewn enw ar frenhinoedd eraill, mwy grymus efallai.[1]

Ond cadarnhaodd y cytundeb awdurdod Llywelyn Fawr mewn sawl ardal tu allan i Gwynedd Uwch Conwy, yn cynnwys Y Berfeddwlad, Powys Wenwynwyn, a Maldwyn. Cydnabuwyd yn ogystal ei hawl i ddal dau gastell pwysig iawn yn y de, sef Castell Caerfyrddin a Chastell Aberteifi.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 R. R. Davies, Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987).