Castell Caerfyrddin
Codwyd Castell Caerfyrddin oddeutu 1094 gan y Norman William fitz Baldwin, o bosib ar hen safle caer Geltaidd. Fe'i lleolir yng nghanol tref Caerfyrddin yn Ne Cymru. Mae'r castell wedi'i gofrestru fel Adeiladau rhestredig Gradd I Sir Gaerfyrddin (Rhif Cadw: 9507).
Math | castell, safle archaeolegol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Caerfyrddin |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 24.8 metr |
Cyfesurynnau | 51.856°N 4.30569°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CM008 |
Mae'r safle wedi'i ddefnyddio ers 1105. Chwalwyd y rhan fwyaf o'r castell gan Lywelyn Fawr yn 1215 ond ailgodwyd y castell a'r muriau allanol yn 1223, muriau sy'n amgylchynu hen dref Caerfyrddin, gan wneud y dref hon yn un o'r cyntaf yng Nghymru i'w chreu ar batrwm trefi caerog Normanaidd.
Yr Arglwydd Rhys
golyguArweiniodd Rhys ap Gruffudd (1132 – 28 Ebrill 1197) a adwaenir yn arferol fel 'Yr Arglwydd Rhys' ei ymgyrch olaf yn erbyn y Normaniaid yn 1196, gan gipio nifer o gestyll gan gynnwys Castell Caerfyrddin a llosgi'r dref Seisnig yn ulw. Gyda chymorth llawer rhagor o filwyr Cymraeg lleol trodd i'r dwyrain gan ymosod ar Castell Glan Edw (Conwy ger Maesyfed) gyda'i beiriannau rhyfel nerthol nes i'r Saeson ildio; llosgodd y castell.
Llywelyn Fawr
golyguCadarnhaodd Cytundeb Heddwch Caerwrangon ym Mawrth, 1218 awdurdod Llywelyn Fawr mewn sawl ardal y tu allan i Wynedd Uwch Conwy, yn cynnwys Y Berfeddwlad, Powys Wenwynwyn, a Maldwyn. Cydnabuwyd yn ogystal ei hawl i ddal dau gastell pwysig iawn yn y de: Castell Caerfyrddin a Chastell Aberteifi.[1]
Owain Glyn Dŵr
golyguYn 1405 bu cyrch gan fyddin Owain Glyn Dŵr ar y castell.
Owain Tudur
golyguYn Rhyfel y Rhosynnau carcharwyd y Cymro a'r Lancastriad Owain Tudur (c. 1400 – 2 Chwefror 1461) am gyfnod gan William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) yng Nghastell Caerfyrddin, lle'r aeth yn wael; ni wyddus yn union beth a achosodd ei farwolaeth, ac mae'n bosibl mai cael ei wenwyno a wnaeth.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ R. R. Davies, Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063–1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987).