Term a gyfeiria at fathau o'r planhigyn Canabis a dyfir ar gyfer y deunyddiau y gellir eu gwneud ohono yw cywarch[1] (Saesneg: hemp) ynghyd â'r cynhyrchion eu hunain, gan gynnwys ffeibr, olew a hadau. Caiff cywarch ei buro'n gynnyrch fel olew cywarch, bwydydd hadau cywarch, cwyr, resin, rhaff, mwydion, brethyn, papur a thanwydd. Ar y cyfan, mae gan y mathau hyn o gannabis cyfran isel o Tetrahydrocannabinol (THC), gyda nifer o wledydd â deddfwriaeth ynglŷn â lefelau lleiafswm o THC mewn planhigion canabis diwydiannol (cywarch).

Maes cywarch yn Llydaw

Cyfeiriadau

golygu
  1.  cywarch. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato