Dŵr-fyrddio
Dull arteithio yw dŵr-fyrddio, sef arllwys dŵr i mewn i drwyn a cheg y person a arteithir, sy'n gorwedd ar ei gefn ar oledd gyda'i draed uwch ei ben. Wrth i'w geudod sinws a'i geg lenwi gyda dŵr, mae'r atgyrch gagio yn gorfodi iddo chwythu aer allan o'i ysgyfaint ac felly nid yw'n medru anadlu allan, nac ychwaith mewnanadlu heb iddo anadlu'r dŵr. Gan amlaf mae rhywfaint o'r dŵr yn mynd i mewn i'r ysgyfaint, ond nid yn eu llenwi gan eu bod yn uwch na'r pen a'r gwddf. Mae'r person sy'n cael ei arteithio felly yn cael ei foddi ond nid yn dioddef asffycsia. Câi'r trwyn a'r geg eu gorchuddio gan glwtyn neu seloffen neu ei gau gan un o'r arteithwyr, sy'n galluogi'r dŵr i mynd i mewn i'r llwybr anadlu ond sy'n ei atal rhag ei wthio allan. Ceir seibiant i alluogi'r dioddefwr i beswch a chwydu gan i'r dŵr mynd i mewn i'r llwnc a'r stumog, neu i'w adfywio os yw wedi colli ei ymwybyddiaeth. Achosir dioddefaint corfforol gan ddŵr-fyrddio a theimlad o fraw a phanig o fewn ychydig o eiliadau i'r artaith gychwyn.[1]
Defnyddir ffurfiau ar ddŵr-fyrddio ers y Chwilys yn Sbaen a'r Eidal. Cafodd ei ddefnyddio gan yr Iseldirwyr yn erbyn y Prydeinwyr yn yr 17g, yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, gan Fyddin yr Unol Daleithiau yn y Philipinau, gan Fyddin Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a chan y Khmer Rouge yng Nghambodia. Gwnaed dŵr-fyrddio yn drosedd rhyfel yn erbyn carcharorion gan drydydd Cytundeb Genefa ym 1929, ac yn erbyn sifiliaid gan y pedwerydd cytundeb ym 1949.[1]
Yn ystod y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth, penderfynodd Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau nad oedd dŵr-fyrddio a "thechnegau holi uwch" tebyg yn cystal â diffiniad artaith. Rhodd awdurdod felly i'r CIA ddefnyddio'r fath ddulliau yn erbyn carcharorion yng ngwersyll Bae Guantanamo ac mewn cudd-garchardai mewn gwledydd eraill.[2] Cafodd tri aelod o al-Qaeda eu dŵr-fyrddio tro ar ôl tro yn y cyfnod 2002–03: Abu Zubaydah, Khalid Sheikh Mohammed, ac Abd al-Rahim al-Nashiri.[3] Daeth yr artaith i sylw'r cyhoedd yn 2004, a chyfaddefodd y CIA yn swyddogol yn 2005. Dadleuodd swyddogion yng ngweinyddiaeth yr Arlywydd Bush, gan gynnwys yr Is-arlywydd Dick Cheney, bod y dull hwn yn gyfreithlon ac yn angenrheidiol, a honodd iddo roi i'r CIA wybodaeth o werth ar aelodaeth a gweithgareddau al-Qaeda.[4][5][6] Pwysleisiodd sawl cyfreithiwr, gwleidydd ac ymgyrchydd bod dŵr-fyrddio yn erbyn cyfraith yr Unol Daleithiau a'r gyfraith ryngwladol.[7] Dadleuont hefyd bod y fath artaith fel rheol yn ffynhonnell annibynadwy am wybodaeth oherwydd bydd y dioddefwr yn dweud unrhywbeth i atal rhagor o artaith, ac ei bod hyd yn oed yn wrthgynhyrchiol drwy ennyn dicter yn y byd Mwslimaidd.[8] Dywed yn ogystal bod yr helynt wedi niweidio enw'r Unol Daleithiau ar y llwyfan ryngwladol, yn enwedig wrth arddel bod y wlad honno yn amddiffyn hawliau dynol. Er enghraifft, sonir am ddŵr-fyrddio a thechnegau holi eraill mewn adroddiad gan Weriniaeth Pobl Tsieina yn 2015 wrth ymateb i adroddiadau'r Weinyddiaeth Dramor Americanaidd ar hawliau dynol mewn gwledydd eraill.[9][10] Gwaharddwyd dŵr-fyrddio gan yr Arlywydd Obama yn 2009.[11] Ar ddechrau cyfnod ei weinyddiaeth, mynegodd yr Arlywydd Trump ei farn bod dŵr-fyrddio a dulliau arteithio eraill "yn gweithio", ond nid yw'r Ysgrifennydd Amddiffyn James Mattis na Chyfarwyddwr y CIA Mike Pompeo o blaid adfer y "technegau holi uwch".[12]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) waterboarding. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) Scott Shane, David Johnston, a James Risen. Secret U.S. Endorsement of Severe Interrogations, The New York Times (4 Hydref 2007). Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) Mark Tran. CIA admit 'waterboarding' al-Qaida suspects, The Guardian (5 Chwefror 2008). Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) Thomas M. DeFrank. Former Vice President Dick Cheney 'a strong believer' in waterboarding, New York Daily News (1 Mehefin 2009). Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) Ashcroft defends waterboarding before House panel, CNN (17 Gorffennaf 2008). Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) CIA Lawyer: Waterboarding Wasn't Torture Then And Isn't Torture Now, NPR (7 Ionawr 2014). Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) History of an Interrogation Technique: Water Boarding, ABC (29 Tachwedd 2005). Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) Peter Finn a Joby Warwick. 2002 Document Referred to Extreme Duress as 'Torture,' Warned of Techniques' Unreliability, The Washington Post (25 Ebrill 2009). Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) Full text of Human Rights Record of the United States in 2014, Ecns.cn (26 Mehefin 2015). Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) Michael Forsythe. China Issues Report on U.S. Human Rights Record, in Annual Tit for Tat,The New York Times (26 Mehefin 2015). Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) Ewen MacAskill. Obama: 'I believe waterboarding was torture, and it was a mistake', The Guardian (30 Ebrill 2009). Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) Donald Trump says he believes waterboarding works, BBC (26 Ionawr 2017). Adalwyd ar 27 Ionawr 2017.