Term milwrol am leoliad, lle cynhalir prosiect du yw safle du (Saesneg: black site). Yn ddiweddar, defnyddir y term i ddisgrifio carchardai cudd, fel arfer tu allan i dir mawr ac awdurdod cyfreithiol Unol Daleithiau America, ac sydd ag ond ychydig neu ddim cydnabyddiaeth nac arolygiaeth wleidyddol neu gyhoeddus. Gall gyfeirio at gyfundrefnau a reolir gan y Gwasanaeth Cyfrin Canolog (CIA) a ddefnyddir gan yr Unol Daleithiau yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth i gaethiwo rhai a ddrwgdybir o fod yn frwydrwyr gelyniaethus. Un o'r amcanion honedig yw i gaethiwo rhai a ddrwgdybir o fod yn derfysgwyr tua allan i Ddeddf Arolygiaeth Cudd-wybodaeth, sy'n awdurdodi goruchwyliaeth Gyngresol.[angen ffynhonnell] Mae pwrpasau eraill, yn ôl adroddiad Chwefror 2007 Senedd Ewrop, yn cynnwys caethiwo carcharorion wrth i awyrennau'r CIA a ddefnyddir yn y rhaglen alltudiaeth hynod hedfan trwy diriogaeth Ewropeaidd.[1]

Cydnabuwyd bod y CIA yn cynnal carchardai cudd gan Arlywydd yr Unol Daleithiau George W. Bush mewn araith ar 6 Medi, 2006.[2] Dywedodd The Washington Post yn Nhachwedd 2005 bod safleoedd duon yn bodoli, a dywedodd rhai NGOau hawliau dynol eu bod yn bodoli cyn hynny.[3] Mae nifer o wledydd Ewrop wedi gwadu'n swyddogol eu bod yn cynnal safleoedd duon i garcharu terfysgwyr neu'n cydweithredu yn rhaglen alltudiaeth hynod yr Unol Daleithiau. Nid oes unrhyw wlad wedi cadarnháu ei bod yn cynnal safleoedd duon. Ond, yn ôl adroddiad yr Undeb Ewropeaidd, a fabwysiadwyd ar 14 Chwefror, 2007 gan fwyafrif o Senedd Ewrop (382 o ASEau yn pleidleisio o blaid, 256 yn erbyn a 74 yn ymwrthod), gweithredodd y CIA 1245 o deithiau awyr, a dywedodd nid oedd yn amhosib i wrth-ddweud tystiolaeth neu awgrymiadau bod canolfannau carcharu cyfrinachol yn cael eu gweithredu yng Ngwlad Pwyl a Rwmania. Mae'r adroddiad hwn yn "difaru bod gwledydd Ewropeaidd wedi bod yn gollwng rheolaeth dros eu gofod awyr a meysydd awyr trwy droi llygad ddall neu dderbyn teithiau awyr a weithredwyd gan y CIA sydd, mewn rhai achosion, yn cael eu defnyddio ar gyfer cludiant anghyfreithlon carcharorion".[1][4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) EU endorses damning report on CIA. BBC (14 Chwefror, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.
  2. (Saesneg) Bush: CIA holds terror suspects in secret prisons. CNN (7 Medi, 2006). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.
  3. (Saesneg) CIA Holds Terror Suspects in Secret Prisons. The Washington Post (2 Tachwedd, 2005). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.
  4. (Saesneg) EU rendition report: Key excerpts. BBC (14 Chwefror, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: safle du, brwydrwr gelyniaethus, Deddf Arolygiaeth Cudd-wybodaeth, alltudiaeth hynod o'r Saesneg "black site, enemy combatant, Intelligence Oversight Act, extraordinary rendition". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.