Diwinydd Protestannaidd o'r Swistir oedd Karl Barth (10 Mai 188610 Rhagfyr 1968).

Karl Barth
Karl Barth yn annerch cyfarfod yn Wuppertal ym Mawrth 1956.
Ganwyd10 Mai 1886 Edit this on Wikidata
Basel Edit this on Wikidata
Bu farw10 Rhagfyr 1968 Edit this on Wikidata
Basel Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, gweinidog bugeiliol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAnselm o Gaergaint, Jean Calvin, Friedrich Schleiermacher, Søren Kierkegaard, Adolf von Harnack, Christoph Blumhardt Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Parti Cymdeithasol Democrataidd y Swistir Edit this on Wikidata
TadFritz Barth Edit this on Wikidata
PerthnasauTheodor Barth Edit this on Wikidata
Gwobr/auSonning Prize Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Basel, yng ngogledd-orllewin y Swistir, yn fab i'r Athro Fritz Barth a fu'n darlithio ar bynciau'r Testament Newydd a'r Eglwys Fore ym Mhrifysgol Bern, ac Anna Sartorius. Astudiodd ym mhrifysgolion Bern, Berlin, Tübingen, a Marburg. Mynychodd seminarau'r hanesydd eglwysig Adolf von Harnack ym Merlin, ac ym Marburg daeth dan ddylanwad y diwinydd rhyddfrydol Wilhelm Herrmann. Cafodd Barth ddiddordeb mawr yn syniadau Friedrich Schleiermacher, un o brif ysgolheigion Beiblaidd ac athronwyr Cristnogol y 19g, a thynnwyd ei sylw hefyd gan berthnasedd y dull gwyddonol. Gwasanaethodd yn giwrad yng Ngenefa o 1909 i 1911, ac wedi hynny fe'i penodwyd yn weinidog i blwyf Safenwil, yng nghanton Aargau. Treuliodd ddeng mlynedd yn Safenwil, yn datblygu ei ddiwinyddiaeth ac yn dal at ei astudiaethau Beiblaidd. Priododd Karl Barth â'r feiolinydd Nelly Hoffman ym 1913, a chawsant un ferch a phedwar mab.[1]

Cyhoeddodd Der Römerbrief, ei gyfrol bwysig ar Lythyr Paul at y Rhufeiniaid, ym 1919, gan ennill enw o'r cychwyn am ei ddiwinyddiaeth ddilechdidol. Ar sail y llyfr hwnnw, penodwyd Barth yn athro diwinyddiaeth Ddiwygiedig ym Mhrifysgol Göttingen ym 1921, ac yno cychwynnodd ar ei astudiaeth drylwyr o ddiwinyddion Protestannaidd yr oes ysgolaidd a Thadau'r Eglwys er mwyn llunio'i ddarlithoedd. Derbyniodd gadeiriau athrawol ym Münster ym 1925 ac yn Bonn ym 1930, ac yn y ddwy brifysgol honno traddodai ei gyfres o ddarlithoedd am ddiwinyddiaeth Brotestannaidd y 19g, a fyddai'n cael eu cyhoeddi yn y gyfrol Die protestantische Theologie im 19. Jahrhundert ym 1947. Ym Münster hefyd ysgrifennodd ei ymdrech gyntaf ym maes dogmateg, Die Lehre vom Worte Gottes; Prolegomena zur christlichen Dogmatik (1927). Ei gampwaith, mae'n debyg, yw Kirchlche Dogmatik, a gyhoeddwyd mewn sawl cyfrol o 1932 i 1967.

Yn ei waith Nein! Antwort an Emil Brunner (1934), ymateb i Emil Brunner, honnai Barth bod syncretiaeth grefyddol a gwrth-Semitiaeth y Natsïaid yn wyrdroad oddi ar lwybr hanesyddol y Gristionogaeth. Cafodd Barth ran yn sefydlu'r Eglwys Gyffes yn yr Almaen Natsïaidd, a lluniodd drafft cyntaf Datganiad Barmen ym 1934. Fe'i diswyddwyd o'i gadair ym Mhrifysgol Bonn ym 1935 am iddo wrthod tyngu'r llw teyrngarwch i Adolf Hitler. Cynigwyd iddo swydd athro diwinyddiaeth yn Basel, a dychwelodd felly i'w ddinas enedigol. Hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, byddai Barth yn pleidio achos yr Eglwys Gyffes ac yn siarad yn erbyn erledigaeth yr Iddewon.

Wedi'r rhyfel, gwahoddwyd Barth yn ôl i Bonn, yng Ngorllewin yr Almaen. Cyfrannai at nifer o ddadleuon diwinyddol y cyfnod hwn, gan gynnwys yr anghydfodau ynghylch bedydd, hermeniwteg, a dadfytholegu. Anerchodd gynhadledd gyntaf Cyngor Eglwysi'r Byd yn Amsterdam ym 1948, ac ymwelodd â Rhufain yng nghanol y 1960au yn sgil Ail Gyngor y Fatican. Cesglir ei bregethau i garcharorion Basel yn y gyfrol Den Gefangenen Befreiung; Predigten aus den Jahren 1954–59 (1959). Bu farw Karl Barth yn Basel yn 82 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Karl Barth. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Tachwedd 2021.

Darllen pellach golygu

  • D. Densil Morgan, Barth (Dinbych: Gwasg Gee, 1992).
  • D. Densil Morgan, Barth Reception in Britain (Llundain: T&T Clark, 2010).