Dadfeilio ymbelydrol

(Ailgyfeiriad oddi wrth Dadfeilio)

Proses mewn ffiseg ydy dadfeiliad ymbelydrol pan fo niwclews atomig ansefydlog yr elfen gemegol yn colli neu'n rhyddhau egni drwy ïoneiddio gronynnau, hynny yw drwy daro atomau a bwrw electronau i ffwrdd ohonyn nhw. Nid yw'r niwclews (wrth ddadfeilio) yn bwrw yn erbyn gronynnau eraill. Canlyniad y dadfeilio yw bod y fam atom cychwynnol yn trawsffurfio i fod yn atom o fath gwahanol (y "ferch"). Er enghraifft: mae'r fam-atom Carbon-14 yn taflu ymbelydredd ac yn trawsffurfio yn nitrogen-14, sef y ferch-atom. Yn ôl rheolau mecaneg cwantwm, ni allwn gyfrifo a rhagweld faint o amser y cymer i'r atom hwn - a phob atom arall - ddadfeilio. Ond gan fod cymaint o atomau yn dadfeilio ar yr un pryd, gallem fod yn eithaf hyderus fod y cyfrifiad yn eithaf agos i'w le.[1]

Arwydd sy'n rhybuddio'r darllenydd o beryglon ymbelydredd a graddfa'r perygl hwnnw.

Caiff ymbelydredd ei fesur mewn Becquerelau, Bq. Diffiniad o un Bq ydy un dadfeiliad pob eiliad. Gan fod llawer o atomau mewn sampl labordy, mae'r Bq yn fesur pitw bach iawn a gall fesur cyn lleied â GBq (gigabecquerel, 1 x 109 dadfeiliad yr eiliad) neu TBq (terabecquerel, 1 x 1012 dadfeiliad yr eiliad). Dull arall o fesur ymbelydredd ydy'r curie, Ci.

Mae cyfradd dadfeilio sampl ymbelydrol mewn cyfrannedd union â'r nifer o atomau ansefydlog sydd yn y sampl. Gellir darganfod y gyfradd drwy luosi'r nifer o atomau gyda'r cysonyn dadfeilio, λ. Mae gan y cysonyn hwn berthynas â hanner oes y sampl a ddiffinnir gan λ = ln2 / T½, lle mae ln2 yn logarithm naturiol dau (oddeutu 0.693), a T½ yw hanner oes y sampl.

CyfeiriadauGolygu