Daeargryn ar raddfa 7.9 Mw oedd Daeargryn Sichuan, 2008 (Tsieineeg: 四川大地震; Pinyin: Sìchuān dà dìzhèn). Digwyddodd am 14:28:01.42 Amser Safonol Tsieina (06:28:01.42 UTC) ar 12 Mai2008 yn nhalaith Sichuan, Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mae wedi cael ei galw yn Ddaeargryn Wenchuan yn Tsieina (Tsieineeg: 汶川大地震; Pinyin: Wènchuān dà dìzhèn), am fod canolbwynt y daeargryn yn Swydd Wenchuan, Sichuan. Roedd y canolbwynt 90 km i'r gogledd-orllewin o Chengdu, prifddinas Sichuan, ar ddyfnder o 19 km dan wyneb y ddaear.[1] Teimlwyd y daeargryn mor bell i ffwrdd â Beijing a Shanghai, lle siglodd adeiladau gan y cryndod.[2] Teimlwyd y daeargryn mewn gwledydd cyfagos yn ogystal.
: Y prif fudiad cymorth yw Cymdeithas Croes Goch Tsieina. Dywedodd Gweinyddiaeth Materion Dinesig y rhoddwyd $125.4 miliwn gan y cyhoedd yn Tsieina. Rhoddodd chwaraewr mwyaf poblogaidd y wlad, Yao Ming, $214,000 a $71,000 i Gymdeithas Croes Goch Tsieina. Mae Cymdeithas Croes Goch Tsieina wedi casglu tua $26 miliwn hyn yn hyn.[8] Casglodd cwmnïau rhyngwladol arian hefyd.[9]
: Rhoddodd Croes Goch Cambodia $10,000 i helpu dioddefwyr y drychineb.[10]
: Danfonodd y llywodraeth awyren gyda phebyll, sachau cysgu, blancedi, tarpowlin, offer coginio a phethau eraill tebyg. Amcangyfrifwyd fod hyn gwerth tua $385,500.
: Cyhoeddodd y llywodraeth ei bod am gyflwyno $770,000 fel y "cam cyntaf" trwy Groes Goch yr Almaen yn gymorth.[11]
: Addawodd y llywodraeth $38.4 miliwn.[12] Cynigodd yr Hong Cong Jockey Club $3.85 miliwn.[13] I ddelio â chyfraniadau wrth unigolion, dywedwyd y byddai swyddfeydd post a swyddfeydd llywodraethau lleol yn gweithredu fel mannau casglu. Byddai cyfraniadau'n cael eu trosglwyddo i bum mudiad elusennol sef (Croes Goch Hong Cong, World Vision Hong Cong, Oxfam Hong Cong, UNICEF a Byddin yr Iachawdwriaeth).[8][14]
: Roedd $4.8 miliwn mewn arian a nwyddau i gael ei ddosbarthu trwy lywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina a mudiadau rhyngwladol. Dywedodd Tokyo eu bod yn barod i gynnig cymorth ychwanegol pe bai angen.[15]
: $14.3 miliwn gan y llywodraeth a $1.43 miliwn gan Sefydliad Macau.[8]
: Gallai'r Special Malaysia Disaster Assistance and Rescue Team (SMART) gael ei anfon i Tsieina i fod o gymorth i ddioddefwyr yn Chengdu.[16]
: Awyren gludo am hedfan 30 tunnell o ddeunydd cymorth i Chengdu dydd Mercher, a 100 tunnell pellach i ddod.[18]
: Y llywodraeth wedi rhoi $200,000 o gymorth yn ogystal â $70,000 wedi ei godi trwy gasglwyr yng nghymunedau China.[19]
: Tua $1 miliwn i China. Mae Seoul hefyd yn bwriadu anfon gweithwyr achub.[20]
Nodyn:BanericonROC: Y Gweithredwr Yuan wedi datgan bydd y llywodraeth yn rhoi $65 miliwn. Roedd y llywydd Ma Ying-jeou wedi rhoi $6,500. Danfonodd y llywodraeth 58 o bobl mewn tîm chwilio ac achub. Addawodd Taiwan $42.9 miliwn.[21]
: Neilltuodd Gwlad Tai $500,000 o gymorth i Tsieina a Myanmar.[22]
: Rhoddodd yr Unol Daleithiau $500,000 fel cymorth cychwynnol mewn ymateb i apêl am arian gan y Groes Goch Rhyngwladol. Byddent yn ystyried rhoi mwy o arian.[23]