Daearyddiaeth Seland Newydd
Y ddwy ynys fwyaf o'r ynysoedd sy'n ffurfio Seland Newydd yw Ynys y Gogledd ac Ynys y De, gyda Culfor Cook yn eu gwahanu. Ynys y De yw'r fwyaf, ac yma y ceir y mynyddoedd uchaf. Mae Alpau Seland Newydd yn ymestyn o'r gogledd i'r de ar hyd yr ynys. Y copa uchaf yw Aoraki/Mynydd Cook (3,754 medr), ac mae 16 copa arall fros 3,000 medr. Mae Ynys y Gogledd yn llai mynyddig, ond ceir llosgfynyddoedd yma. Copa uchaf Ynys y Gogledd yw Ruapehu, llosgfynydd sy'n 2,797 medr o uchder.
Trydydd ynys Seland Newydd yn ôl arwynebedd yw Ynys Stewart, sydd 30 km o'r de o Ynys y De, ar draws Culfor Foveaux. O tan poblogaeth, Ynys Waiheke, 18 km o arfordir Auckland yng Ngwlff Hauraki yw'r drydedd ynys. Ceir hefyd lawer o ynysoedd bychain.
Llyn mwyaf Seland Newydd yw Llyn Taupo, ar Ynys y Gogledd. Y llyn mwyaf ar Ynys y De yw Llyn Te Anau.