Daearyddiaeth y Comoros

Lleolir ynysfor y Comoros ym mynedfa ogleddol Sianel Mosambic, yng ngorllewin Cefnfor India, rhyw hanner ffordd rhwng pen mwyaf gogleddol Madagasgar ac arfordir Mosambic ar dir mawr Affrica. Mae'n cynnwys pedair prif ynys: Njazidja (Grande Comore), Nzwani (Anjoun), Mwali (Mohéli), a Mahoré (Mayotte). Département tramor a rhanbarth tramor Ffrainc yw Mayotte, ond mae Undeb y Comoros yn hawlio sofraniaeth dros yr ynys honno.

Daearyddiaeth y Comoros
Mathdaearyddiaeth lleoliad daearyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladY Comoros Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12.17°S 44.25°E Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad y Comoros rhwng de-ddwyrain Affrica ac ynys Madagasgar.
Map o ynysfor y Comoros, gan gynnwys Undeb y Comoros a Mayotte.

Mae Undeb y Comoros yn cynnwys Njazidja, Nzwani, Mwali, a sawl ynysig, a chanddynt cyfanswm arwynebedd o 2170 km² (838 milltir sgwâr).

Eginyn erthygl sydd uchod am y Comoros. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.