Dafydd Andrews
nofelydd o Gymro
Mae Dafydd Andrews yn nofelydd, cyfieithydd ac yn aelod o'r Academi Gymreig. Fe'i ganed yn Wrecsam a chafodd ei addysg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, Prifysgol Cymru, Bangor a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Mae'n byw yn Weston Rhyn ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ger Croesoswallt.
Dafydd Andrews | |
---|---|
Ganwyd | Wrecsam |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd, cyfieithydd |
Ar wahân i’w ddwy nofel, mae wedi cyhoeddi'r unig lyfr yn Gymraeg ar Karate a Jiwdo, rhan o'r gyfres "Dewch i Chwarae", a llyfr teithiau cerdded i gan mynydd uchaf Cymru, sef Cant Cymru.[1]
Cyhoeddiadau
golygu- Ymwelwyr Annisgwyl a storïau eraill, cyfieithiad o Heinrich Böll (Yr Academi Gymreig, 1980)
- Karate a Jiwdo (Y Lolfa)
- Y Twll yn y Wal (Y Lolfa, 1992)
- Llais y Llosgwr (Y Lolfa, 1994)
- Cant Cymru (Y Lolfa, 1998)
- The Welsh One Hundred (Y Lolfa, 1999)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "LiteratureWales.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-14. Cyrchwyd 2011-06-25.