Ysgol Morgan Llwyd

Ysgol gyfun Gymraeg sy'n gwasanaethu tref Wrecsam a'r cylch yw Ysgol Morgan Llwyd. Hon yw'r unig ysgol uwchradd Gymraeg ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Fe'i henwir ar ôl y llenor Piwritanaidd Morgan Llwyd. Agorodd Ysgol Morgan Llwyd ym mis Medi 1963 a lleolwyd hi mewn ystafelloedd dosbarth gwag yn hen Ysgol Fodern Victoria. Symudodd i hen safle Gwersyll Maes-y-Meudwy yn Hightown ym mis Gorffennaf 1964, a chafwyd adeilad newydd yn 1975. Daeth yr ysgol yn boblogaidd a tyfodd y nifer o ddisgyblion yn sydyn. Cafwyd safle newydd yn yr 1990au ar ffurf hen goleg hyfforddi athrawon, Cartrefle, Cefn Road. Agorwyd y safle newydd yn swyddogol yn 2000, gyda chost o £8.5 miliwn a symudodd Ysgol St. Christopher i hen safle Ysgol Morgan Llwyd.[1]

Ysgol Morgan Llwyd
Arwyddair Ym mhob llafur y mae elw
Sefydlwyd 1963
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Carwyn M Davies
Cadeirydd Dr Phillip Davies
Lleoliad Ffordd Cefn, Wrecsam, Cymru, LL13 9NG
AALl Wrecsam
Disgyblion tua 700
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Alun, Bers, Clywedog, Dyfrdwy, Erddig, Gwenfro
Lliwiau Marŵn a du
Gwefan ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk

Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol golygu

Mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion o'r ysgolion Cymraeg isod yn mynychu Ysgol Morgan Llwyd. Daw ychydig o ddisgyblion yn ogystal o ysgolion cynradd Saesneg cyfagos.

Cyn-ddisgyblion o nôd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato