Dafydd Hywel - Hunangofiant Alff Garnant
Hunangofiant Dafydd Hywel ganddo ef ei hun ac Alun Wyn Bevan yw Dafydd Hywel: Hunangofiant Alff Garnant a gyhoeddwyd yn 2013 gan Wasg Gomer. Yn 2017 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | hunangofiant |
---|---|
Awdur | Dafydd Hywel ac Alun Wyn Bevan |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781848515376 |
Genre | hunangofiant |
Prif bwnc | Dafydd Hywel |
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Hunangofiant di-flewyn ar dafod y cymeriad brith, lliwgar a'r actor Dafydd Hywel.
Rhan o adolygiad Rhiannon Evans yn Gwales
golyguDywed Rhiannon Evans ar wefan Gwales:
Dyn oedd â thipyn o feddwl o'i farn ei hun oedd Alf Garnett y sitcom Till Death Us Do Part, yn adweithiol a rhagfarnllyd. I'r graddau ei fod yntau hefyd yn hoff o gael dweud ei ddweud, gesyd Dafydd Hywel ei hun yn yr un mowld â'r cymeriad crintachlyd hwnnw a bortreadwyd gan Warren Mitchell.
Magwyd Dafydd Hywel yng Nglanaman – nefoedd ar y ddaear i blentyn yn y 1950au, a rhestrir pob siop a charreg yn y pentref, a phob person oedd yn byw yno. Mae ei deyrnged i'w fam yn un gynnes, ac mae'r mab yn galon i gyd wrth gofio'i chyflwr bregus ar ddiwedd ei hoes, yn dioddef o glefyd Alzheimer. Mae'n canmol ei dad, ei ffrind gorau a'r un a'i cyflwynodd i'r campau y bu'n eu dilyn weddill ei oes – rygbi, criced a bocsio. Bu farw ei dad o ganser yn 85 oed: dyma'r diwrnod y dechreuodd Dafydd Hywel beidio â chredu bod Duw i gael.
Adroddir nifer o hanesion difyr am yrfa broffesiynol yr awdur, gan restru'r dramâu a'r sioeau sydd wedi aros yn ei gof, er enghraifft 'The Mouse and the Woman', stori fer gan Dylan Thomas a addaswyd ar gyfer y sgrin fawr gan Vincent Kane a Karl Francis. Sonnir hefyd am Yr Alcoholig Llon, a sut y daeth Alcoholics Anonymous i ddangos y ffilm drosodd a throsodd yn eu sesiynau, er budd mawr i'r rheini oedd yn chwilio am ryddhad o afael y cyffur. Ar gynffon y rhestr gynyrchiadau manteisir ar y cyfle i ddatgan barn am gyflwr y byd ffilmiau cyfoes yng Nghymru.
Ar lefel bersonol, bu Dafydd Hywel yn weithgar iawn yn yr ymgyrch i sefydlu ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd. Roedd cynllun ar droed i fynnu bod ei blant yn mynychu ysgolion cynradd gwahanol, y naill yn agos i'r cartref a'r llall bellter mawr i ffwrdd. Wedi ymgyrch filain caniatawyd lle i'r ddau yn Ysgol Coed-y-gof. Adroddir stori ingol Aber-fan yma hefyd, a cholli'r 144, gan gynnwys 116 o blant. Tynnir sylw at yr anghyfiawnder a fu wrth ddosbarthu'r arian a gasglwyd i gefnogi'r gymuned: o ddefnyddio £150,000 o arian Cronfa Aber-fan i glirio'r tip a'i wneud yn ddiogel yn hytrach nag i helpu'r teuluoedd dioddefus.
Nid yw'n osgoi nodi'r troeon tywyll yn ei fywyd – ei anffyddlondeb i Betty, ei wraig, ei gyfnodau o yfed trwm, ei iselder, a'i drafferthion ariannol. Telir teyrnged gynnes i nifer o ffrindiau agos a fu'n gefn iddo drwy'r adegau anodd hyn pan oedd, yn iaith Dyffryn Aman, ‘wedi mynd off y raels'.
Cyflwynir yr hunangofiant yn nhafodiaith hyfryd Dyffryn Aman. Mae'n gyfrol sy'n adrodd stori bywyd, y gwych a'r gwachul.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.