Dafydd Hywel
Actor a chyfarwyddwr o Gymru oedd Dafydd Hywel (4 Rhagfyr 1945 – 23 Mawrth 2023)[1][2]. Cafodd yrfa hir mewn cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu.
Dafydd Hywel | |
---|---|
Ganwyd | David Hywel Evans 4 Rhagfyr 1945 Garnant |
Bu farw | 23 Mawrth 2023 Rhydaman |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguMagwyd David Hywel Evans yng Nglanaman ac yna Garnant, Cwm Aman. Wedi hynny bu'n byw yng Nghapel Hendre ger Rhydaman.[3]
Hyfforddodd fel athro mewn coleg yn Abertawe am fod ei dad eisiau iddo gael "job teidi". Ar ddiwedd yr 1960au fe'i ddewiswyd un o aelodau cyntaf Cwmni Theatr Cymru dan gyfarwyddiaeth Wilbert Lloyd Roberts.[4]
Gyrfa
golyguBu'n chwarae y cymeriad lliwgar Jac Daniels ar Pobol y Cwm yn yr 1980au. Fe ymddangosodd ar y rhaglen blant Miri Mawr yn chwarae Caleb y Twrch.
Chwaraeodd rannau mewn cyfresi drama Cymraeg fel Y Pris a Pen Talar, y ffilmiau Rhosyn a Rhith, I Fro Breuddwydion ac Yr Alcoholig Llon ymysg eraill. Yn Saesneg cafodd rannau gwadd mewn cyfresi fel The Indian Doctor, The Bill a Holby City. Roedd hefyd yn un o sêr y gyfres Stella.[5]
Yn 1989 sefydlodd Cwmni Whare Teg ond daeth y cwmni i ben ym 1993 yn sgil colledion ariannol. Aeth ymlaen i ffurfio Cwmni Mega ym 1994, sydd wedi cynhyrchu pantomeimau Cymraeg yn flynyddol ers hynny.[6] Ar ddiwedd 2022, pasiodd yr awenau i'r pâr priod, Lisa Marged a Gwydion Rhys.
Roedd yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg, gan ymladd dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.[7]
Cyhoeddodd ei hunangofiant Dafydd Hywel - Hunangofiant Alff Garnant yn 2013.
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Betty a cawsant ddau o blant, Catrin a Llŷr.
Bu farw yn 77 mlwydd oed wedi cyfnod o salwch.[8] Cynhaliwyd ei angladd ar ddydd Gwener, 21 Ebrill 2023. Roedd gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Llanelli am 13:00 y prynhawn wedyn cyfle i rannu straeon ac atgofion am ei fywyd ym Mharc y Scarlets.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Yr actor Dafydd Hywel wedi marw'n 77 oed". newyddion.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-03-23.
- ↑ 2.0 2.1 Hysbysiad marwolaeth - Dafydd Hywel EVANS. Western Mail (1 Ebrill 2023).
- ↑ Dafydd Hywel - Hunangofiant Alff Garnant; Adalwyd 2015-12-29
- ↑ Ynol yn y Cwm ar ei newydd wedd? Annes Glynn yn sgwrsio a'r actor Dafydd Hywel, sydd yndychwelyd i Gwmderi fel Jac Daniels. , Daily Post, 15 Mai 2004. Cyrchwyd ar 23 Mawrth 2023.
- ↑ Cofio - Actor o Ddyffryn Aman ar Cofio; S4C; Adalwyd 2015-12-29
- ↑ Manylion Cwmni Mega ; Adalwyd 2015-12-29
- ↑ "Cofio Dafydd Hywel, "y dyn llawn"". Golwg360. 2023-06-04. Cyrchwyd 2023-06-07.
- ↑ "Cofio Dafydd Hywel: hanes eicon Cymreig yng ngeiriau'r rhai oedd agosaf ato". Cambrian News. 2023-06-01. Cyrchwyd 2023-06-07.
Dolenni allanol
golygu- Dafydd Hywel ar wefan Internet Movie Database
- Cwmni Mega Archifwyd 2016-01-12 yn y Peiriant Wayback