Dail y Beiblau
Dail y Beiblau | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Malpighiales |
Teulu: | Hypericaceae (neu Clusiaceae) |
Genws: | Hypericum |
Rhywogaeth: | H. androsaemum |
Enw deuenwol | |
Hypericum androsaemum L. |
Planhigyn blodeuol o deulu'r Hypericaceae neu Clusiaceae ydy Dail y Beiblau (Saesneg: Tutsan; Lladin: Hypericum androsaemum) sy'n blodeuo rhwng Mehefin ac Awst. Gall dyfu hyd at 30–100 cm.
Ymhlith yr enwau eraill arno y mae: Dail Fyddigaidd, Cail Myddigad, Y Feidiog Las, Dail y Twrch, Gwaed y Gwŷr, Creulys Bendigaid, Creulys Bendiged, Dail Penddiged, Dail y Fendigaid, Eurinlys Bendigaid, Llys Perfigedd a Llys y Penddigaid.[1]
Mae'n tyfu mewn mannau tamp, ffosydd cysgodol ac mewn chloddiau.
Deillia'r enw o'r hen arferiad o ddefnyddio'r dail peraroglus fel llyfrnod mewn beiblau.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Llyn.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-09-11.
- ↑ Geograff