Damcaniaeth Brønsted-Lowry
Mewn Cemeg, damcaniaeth - a luniwyd gan Johannes Nicolaus Brønsted a Thomas Martin Lowry yn 1923[1][2] - yw Damcaniaeth Brønsted-Lowry, sy'n diffinio asid fel moleciwl neu ïon a all ryddhau neu "gyfrannu" proton. Mae hefyd yn diffinio beth yw bas sef yr hwn sy'n cymryd neu "dderbyn" ion o hydrogen (y proton). Os yw cyfansoddyn i weithredu fel asid, gan gyfrannu proton, yna mae'n rhaid bod bas yno i dderbyn y proton. Mae Damcaniaeth Brønsted–Lowry, felly, yn cael ei ddiffinio gan yr adwaith ganlynol:
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6a/Autoprotolyse_eau.svg/220px-Autoprotolyse_eau.svg.png)
asid + bas ⇌ asid ymgyfunol + bas ymgyfunol