Martin Lowry
Cemegydd ffisegol o Loegr oedd Thomas Martin Lowry (26 Hydref 1874 – 2 Tachwedd 1936). Ganwyd yn Low Moor, Bradford, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr.
Martin Lowry | |
---|---|
Ganwyd | 26 Hydref 1874 Bradford, Low Moor |
Bu farw | 2 Tachwedd 1936 Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cemegydd, ffisegydd |
Cyflogwr | |
Tad | Edward P. Lowry |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Bakerian Lecture |
Roedd ganddo ofn pethau mawr. Oherwydd hyn treuliodd ei oes yn archwilio i mewn i bethau bach, meicrosgopig.
Astudiodd cemeg dan Henry Armstrong, cemegydd oedd â diddordeb mewn cemeg organaidd ond a oedd hefyd yn cynnwys astudio ionau (ions) mewn dŵr. Yn 1896 daeth yn gynorthwyydd iddo. Yn 1906 daeth yn ddarlithydd mewn cemeg yng Ngholeg Technegol San Steffan cyn symud i Ysbyty Meddygol Guy's, ac yn bennaeth yr adran gemeg yn 1913 ac yn athro coleg ychydig wedyn.
Cafodd ei ethol yn Gymrawd Y Gymdeithas Frenhinol yn 1914. Yn 1920, ef oedd y cyntaf gael cadair mewn cemeg ffisegol a hynny ym Mhrifysgol Caergrawnt. Astudiodd droadau optegol wedi'u hachosi gan asid ac adweithiau bas yn 1923 a arweiniodd at ei fformiwl enwog o'r diffiniad o asid a oedd wedi'i seilio ar brotonnau yn cael eu rhyddhau gan asid a'u derbyn gan y bas. Yn rhyfedd iawn, daethpwyd i'r un casgliad (ar yr un adeg) gan Johannes Nicolaus Brønsted. Treuliodd gweddill ei oes yno yng Nghaergrawnt.
Gweler hefyd
golygu- Damcaniaeth Brønsted-Lowry, sef y diffiniad o asid.