Immanuel Wallerstein
Cymdeithasegydd o'r Unol Daleithiau oedd Immanuel Maurice Wallerstein (28 Medi 1930 – 31 Awst 2019) sydd yn nodedig am arloesi damcaniaeth systemau byd.
Immanuel Wallerstein | |
---|---|
Immanuel Wallerstein mewn seminar ym Mhrifysgol Ewropeaidd St Petersburg yn 2008 | |
Ganwyd | Immanuel Maurice Wallerstein 28 Medi 1930 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 31 Awst 2019 Branford |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, geowleidydd, hanesydd mewn economeg, hanesydd, gwyddonydd gwleidyddol, llenor, cymdeithasegydd, academydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The Modern World-System |
Gwobr/au | Officier des Arts et des Lettres, W.E.B. Du Bois Career of Distinguished Scholarship award, honorary doctor of the University of Brasília, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico, Kondratiev Medal |
Gwefan | http://www.iwallerstein.com/ |
Ganed ym Manhattan a chafodd ei fagu yn y Bronx, Dinas Efrog Newydd, gan deulu Iddewig. Meddyg a rabi oedd ei dad, Lazar, ac arlunydd oedd ei fam Sara, Günsberg gynt. Derbyniodd Immanuel ei radd baglor o Brifysgol Columbia yn 1951. Wedi iddo wasanaethu yn y fyddin o 1951 i 1953, dychwelodd i Columbia ac enillodd ei radd meistr yno yn 1954 am ei draethawd estynedig ar bwnc McCarthyaeth. Teithiodd i Affrica gyda chymrodoriaeth o Sefydliad Ford yn 1955, ac enillodd ei ddoethuriaeth o Columbia yn 1959.[1]
Wedi iddo ymuno â chyfadran Prifysgol Columbia, teithiodd Wallerstein yn ôl i Affrica sawl tro i wneud gwaith ymchwil ar gyfer ei lyfrau Africa: The Politics of Independence (1961) ac Africa: The Politics of Unity (1967). Yn sgil protestiadau gan fyfyrwyr Columbia yn 1968, ysgrifennodd Wallerstein y llyfr University in Turmoil: The Politics of Change (1969). Yn 1974, cyhoeddodd y gyfrol gyntaf mewn cyfres ar bwnc systemau byd.
Yn 1971 symudodd Wallerstein i weithio ym Mhrifysgol McGill, Montréal, ac yn 1976 fe'i penodwyd yn athro arbennig cymdeithaseg yn Mhrifysgol Daleithiol Efrog Newydd yn Binghamton. Bu'n gymrawd ymchwil uwch ym Mhrifysgol Yale o 2000 hyd ei farwolaeth. Cyhoeddodd 500 o negeseuon blog yn rheolaidd ar ei wefan. Priododd â Beatrice Friedman yn 1964, a chawsant un ferch, Katharine. Bu farw yn ei gartref yn Branford, Connecticut, yn 88 oed.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Africa: The Politics of Independence (1961).
- Africa: The Politics of Unity (1967).
- University in Turmoil: The Politics of Change (1969).
- The Modern World-System I: Capitalist Agriculture and the Origins of the European World-Economy in the Sixteenth Century (1974).
- The Modern World-System II: Mercantilism and the Consolidation of the European World-Economy, 1600-1750 (1980).
- The Modern World-System III: The Second Great Expansion of the Capitalist World-Economy, 1730-1840's (1989).
- Unthinking Social Science (1991).
- After Liberalism (1995).
- The End of the World as We Know It: Social Science for the 21st Century (1999).
- The Decline of American Power (2003).
- The Uncertainties of Knowledge (2004).
- The Modern World-System IV: Centrist Liberalism Triumphant, 1789–1914 (2011).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Neil Genzlinger, "Immanuel Wallerstein, Sociologist With Global View, Dies at 88", The New York Times (10 Medi 2019). Adalwyd ar 10 Ionawr 2020.
Darllen pellach
golygu- David Palumbo-Liu, Bruce Robbins, a Nirvana Tanoukhi (goln), Immanuel Wallerstein and the Problem of the World: System, Scale, Culture (Durham, Gogledd Carolina: Duke University Press, 2011).