Damwain drên Sir Drefaldwyn

Ar 26 Ionawr 1921 bu damwain ddifrifol pan ddaeth dau drên benben â'i gilydd. Damwain drên Sir Drefaldwyn yw'r ddamwain drên waethaf yng Nghymru erioed a'r unig un ar drac un lein.

Damwain drên Sir Drefaldwyn
Gorsaf Drenau Aber-miwl yn 1953.
Enghraifft o'r canlynoltrain wreck Edit this on Wikidata
Dyddiad26 Ionawr 1921 Edit this on Wikidata
Lladdwyd17 Edit this on Wikidata
LleoliadAber-miwl Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrRheilffordd y Cambrian Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
RhanbarthPowys Edit this on Wikidata

Digwyddodd y ddamwain ar y lein rhwng y Drenewydd ac Aber-miwl; roedd y naill drên yn teithio o Aberystwyth i Fanceinion a'r llall yn teithio o Whitchurch, Swydd Amwythig, i Aberystwyth. Effaith y gwrthdrawiad oedd i injan un o'r trenau gael ei wthio i fyny i'r awyr a glanio ar ail gerbyd y trên arall. Lladdwyd 17 o bobl, ac yn eu plith roedd un o gyfarwyddwyr lein y Cambrian, Herbert Vane-Tempest. Ymhlith y rhai a laddwyd hefyd roedd Harold Owen Owen, un o gyfarwyddwyr siop Owen Owen, Lerpwl.[1] Lladdwyd gyrrwr y trên o'r Amwythig, sef George Jones hefyd.

Yn 1923 dilewyd y rhannau o'r lein a oedd yn sengl, gan ddyblu'r traciau a'i gwneud yn amhosibl i'r math yma o ddamweiniau ddigwydd eto. Rhoddwyd y bai ar staff Gorsaf reilffordd Aber-miwl am beidio a gwiro'r tocyn a roddwyd iddynt, sef y caniatâd angenrheidiol i'r trên fynd yn ei flaen.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)