Nofel Saesneg gan yr Americanwr Saul Bellow yw Dangling Man a gyhoeddwyd gyntaf ym 1944. Hwn oedd ei waith cyntaf i'w gyhoeddi, yn niwedd ei ddauddegau. Ymdrina'r nofel hon â dyn ifanc sydd wedi ymuno â'r fyddin. Cyhoeddwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan fu wasanaethu Bellow yn Llynges Fasnachol yr Unol Daleithiau. Hwn yw'r unig waith ganddo ar bwnc rhyfel.

Dangling Man
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurSaul Bellow
CyhoeddwrVanguard Press Edit this on Wikidata
GwladUDA
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi1944 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganThe Victim Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithChicago Edit this on Wikidata

Ysgrifennir y nofel fer hon ar ffurf dyddiadur y prif gymeriad, dyn ifanc o'r enw Joseph sy'n treulio oddeutu pedwar mis yn ddiwaith yn Chicago wrth iddi aros i gael ei alw i'r fyddin. Gellir ystyried Joseph yn enghraifft o'r "dyn diangen", thema boblogaidd yn llenyddiaeth Rwseg y 19g, er enghraifft Dnevnik Lishnego Cheloveka ("Dyddiadur Dyn Diangen") gan Ifan Twrgenef. Yn ei gyflwyniad i'r argraffiad Penguin Modern Classics, cymharodd J. M. Coetzee adroddwr Dangling Man â chymeriadau Gogol a Dostoyevsky, Jean-Paul Sartre (Roquentin yn Nausea), a Rainer Maria Rilke (Die Aufzeichnungen des Malte Laurids Brigge).[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. J. M. Coetzee yn argraffiad Modern Classics Dangling Man (Llundain, Penguin, 2007), t. x.