Daniel James (Gwyrosydd)
Bardd Cymraeg oedd Daniel James (23 Ionawr 1848 – 11 Mawrth 1920),[1] a gyhoeddai dan ei enw barddol "Gwyrosydd". Ef biau'r geiriau 'Nid wy'n gofyn bywyd moethus' a gennir gan amlaf ar yr emyn-don 'Calon Lân'.[2]
Daniel James | |
---|---|
Ffugenw | Gwyrosydd |
Ganwyd | 23 Ionawr 1848 Treboeth |
Bu farw | 16 Mawrth 1920 Treforys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, pwdler haearn |
Brodor o bentref Treboeth, Abertawe oedd Gwyrosydd. Bu'n gweithio fel torrwr beddau yn Aberpennar am gyfnod, yng ngwaith haearn Treforys ac mewn pwll glo yn Nowlais. Mae wedi'i gladdu ym mynwent Mynydd Bach, Abertawe.
Cyfansoddodd nifer o gerddi poblogaidd a gyhoeddwyd mewn cylchgronau fel darnau adrodd. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, sef Caneuon Gwyrosydd ac Aeron Awen Gwyrosydd. Nid oes gwerth llenyddol parhaol i'r cerddi hyn, sy'n nodweddiadol o ganu poblogaidd y cyfnod, ond mae ei gerdd sy'n dechrau gyda'r geiriau 'Nid wy'n gofyn bywyd moethus' (cyhoeddwyd yn 1892) yn gyfarwydd o hyd fel geiriau'r emyn-don 'Calon Lân'.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Caneuon Gwyrosydd (1892)
- Aeron Awen Gwyrosydd (1898)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein. Adalwyd 25 Ebrill 2014
- ↑ 2.0 2.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru