Daniel James (Gwyrosydd)

bardd

Bardd Cymraeg oedd Daniel James (23 Ionawr 184811 Mawrth 1920),[1] a gyhoeddai dan ei enw barddol "Gwyrosydd". Ef biau'r geiriau 'Nid wy'n gofyn bywyd moethus' a gennir gan amlaf ar yr emyn-don 'Calon Lân'.[2]

Daniel James
FfugenwGwyrosydd Edit this on Wikidata
Ganwyd23 Ionawr 1848 Edit this on Wikidata
Treboeth Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mawrth 1920 Edit this on Wikidata
Treforys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, pwdler haearn Edit this on Wikidata

Brodor o bentref Treboeth, Abertawe oedd Gwyrosydd. Bu'n gweithio fel torrwr beddau yn Aberpennar am gyfnod, yng ngwaith haearn Treforys ac mewn pwll glo yn Nowlais. Mae wedi'i gladdu ym mynwent Mynydd Bach, Abertawe.

Cyfansoddodd nifer o gerddi poblogaidd a gyhoeddwyd mewn cylchgronau fel darnau adrodd. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, sef Caneuon Gwyrosydd ac Aeron Awen Gwyrosydd. Nid oes gwerth llenyddol parhaol i'r cerddi hyn, sy'n nodweddiadol o ganu poblogaidd y cyfnod, ond mae ei gerdd sy'n dechrau gyda'r geiriau 'Nid wy'n gofyn bywyd moethus' (cyhoeddwyd yn 1892) yn gyfarwydd o hyd fel geiriau'r emyn-don 'Calon Lân'.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Caneuon Gwyrosydd (1892)
  • Aeron Awen Gwyrosydd (1898)

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein. Adalwyd 25 Ebrill 2014
  2. 2.0 2.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.