Daniel James (pêl-droediwr)

Pêl-droediwr proffesiynol yw Daniel Owen James (ganwyd 10 Tachwedd 1997) sy'n chwarae fel asgellwr i Fulham, ar fenthyg o Leeds United a thîm cenedlaethol Cymru. Gall James chwarae fel asgellwr, a hefyd fel chwaraewr canol cae ymosodol.[1]

Daniel James
GanwydDaniel Owen James Edit this on Wikidata
10 Tachwedd 1997 Edit this on Wikidata
Kingston upon Hull Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • South Hunsley School Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra171 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau66 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Dinas Abertawe, Shrewsbury Town F.C., Manchester United F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed Edit this on Wikidata
Saflehanerwr asgell Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf i Ddinas Abertawe ym mis Chwefror 2018 a'i ymddangosiad cyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd 2018. Roedd eisoes wedi cynrychioli Cymru ar wahanol lefelau ieuenctid. Sgoriodd ei gôl gyntaf i Gymru yn erbyn Slofacia ar 24 Mawrth 2019 mewn gêm ragbrofol Ewro 2020 a enillodd Cymru 1-0.

Wedi cyfnod addawol iawn gydag Academi Dinas Hull, ymunodd James â Dinas Abertawe yn 2014 am ffi gychwynnol o £72,000,[2] gan ymuno'n syth â'r academi dan-18. Erbyn tymor 2016-17, roedd James wedi dod yn rhan annatod o'r tîm dan-23 Abertawe a enillodd ddyrchafiad i Adran Gyntaf PDL wedi iddynt ennill y gynghrair o 11 pwynt. Yn ogystal â hynny, bu James yn aelod o'r tîm a enillodd gwpan yr Uwch Gynghrair, gan gyrraedd rowndiau cynderfynol Cwpan Rhyngwladol yr Uwch Gynghrair a rowndiau go-gyn-derfynol Tlws EFL.

Yn dilyn perffomiadau disglair yn y garfan ddatblygu,[3] cafodd James ei gynnwys yng ngharfan y tîm cyntaf am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2016 pan trechwyd Abertawe yng Nghwpan yr FA gan Oxford United.[4] Er na ddaeth James oddi ar y fainc, ystyriwyd bod ei gynnydd yn ddigonol iddo gael cynnig cytundeb newydd am dair blynedd yr wythnos ganlynol.[5] Cafodd ei enwi ar y fainc ym mis Hydref 2016 mewn gêm Uwch Gynghrair yn erbyn Stoke City.[1]

Ar 30 Mehefin 2017, ymunodd James â chlwb Shrewsbury Town ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.[6] Cafodd ei gytundeb ei derfynu drwy gydsyniad ar 31 Awst 2017 ar ôl iddo fethu â chael lle yn yr 11 cyntaf.[7] Unwaith yn unig y cafodd James ei gynnwys mewn carfan diwrnod gêm, a hynny fel eilydd na chafodd ei ddefnyddio mewn gêm gwpan rownd gyntaf Cwpan EFL yn erbyn Nottingham Forest.[8]

Ar 6 Chwefror 2018, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i dîm Abertawe fel eilydd hwyr, a sgoriodd ar ôl 82 o funudau mewn buddugoliaeth o 8–1 dros Notts County yng Nghwpan FA.[9]

Chwaraeodd ei gêm gynghrair gyntaf dros Abertawe ar 17 Awst 2018 mewn gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Birmingham City ym Mhencampwriaeth EFL.[10] Sgoriodd ei gôl gynghrair gyntaf i'r clwb ar 24 Tachwedd 2018 mewn buddugoliaeth gartref o 4–1 yn erbyn Norwich City.[11] Erbyn mis Rhagfyr 2018, roedd James yn chwaraewr oedd yn disgleirio'n gyson i Abertawe,[12] a chyhoeddodd y rheolwr, Graham Potter, fod y clwb yn bwriadu dechrau trafodaethau am gytundeb newydd.[13] Er gwaethaf sôn am symud i Leeds United yn ystod ffenestr drosglwyddo Ionawr 2019,[14][15] enwyd James yn nhîm Abertawe oedd yn cychwyn y gêm yn erbyn Birmingham City ar 29 Ionawr, a sgoriodd ei ail gôl o'r tymor mewn gêm gyfartal 3– 3.[16]

Ar 31 Ionawr 2019, gyda James wedi mynegi ei ddymuniad i adael Abertawe i ymuno â Leeds United, cytunwyd ar ffi strwythuredig o £10 miliwn rhwng y ddau glwb, cytunodd James ar delerau a chymryd y profion meddygol yn Leeds,[17] ac roedd yn Elland Road yn cael cyfweliadau a'i lluniau wedi'u tynnu cyn i'r cytundeb gael ei gymeradwyo.[18] Fodd bynnag, ar ôl sôn am anghytundeb rhwng perchnogion Abertawe a'u cadeirydd, gadawyd James yn Elland Road yn disgwyl i'r cytundeb gael ei lofnodi pan gaeodd y ffenestr drosglwyddo am 11pm.[19]

Manchester United golygu

Ar 6 Mehefin 2019 cafodd James brofion meddygol gyda chlwb Manchester United ar gyfer ei drosglwyddiad am ffi o £15m gyda rhai ychwanegiadau.[20] Ar 7 Mehefin, cyhoeddodd United eu bod wedi cytuno ar delerau 'mewn egwyddor' gydag Abertawe.[21]

Gyrfa ryngwladol golygu

Yn enedigol o Swydd Efrog, Lloegr, mae James yn gymwys i chwarae dros Gymru trwy ei dad, Kavan,[22] a aned yn Aberdâr.[3] Sgoriodd James dros dîm dan-20 Cymru mewn buddugoliaeth 1-0 yn erbyn Bahrain U20 yn Nhwrnamaint Toulon.[23]

Cafodd James ei alwad gyntaf i chwarae dros dîm cyntaf Cymru ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan FIFA y Byd 2018 yn erbyn Serbia yn 2017[10] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghymru dan Ryan Giggs mewn gêm yn erbyn Albania ym mis Tachwedd 2018, gan chwarae 58 munud cyntaf y gêm.[24] Sgoriodd James ei gôl gyntaf dros Gymru yn ei ail gêm, gan rwydo'r unig gôl yn y gemau agoriadol yn erbyn Slofacia. Hwnnw oedd ei ymddangosiad cyntaf mewn gêm gartref gystadleuol.[25]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Booth, Dominic (1 Tachwedd 2016). "Who is Daniel James? What you need to know about the exciting Swansea City teenager who made the bench at Stoke City". walesonline.
  2. "Highly-rated Hull City youngster Dan James 'lost' to Swansea City for £72,000". Hull Daily Mail. 25 Mehefin 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2015. Cyrchwyd 9 Mehefin 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. 3.0 3.1 "Daniel James – Official Website of the Swans – Swansea City AFC latest news, photos and videos". www.swanseacity.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-10. Cyrchwyd 2019-06-07.
  4. Higginson, Marc (10 Ionawr 2016). "Oxford United 3–2 Swansea City". BBC Sport. Cyrchwyd 7 Chwefror 2018.
  5. "Swans U21s' Keston Davies and Daniel James sign new contracts". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mai 2017. Cyrchwyd 9 Mehefin 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Daniel James: Swansea City winger joins Shrewsbury Town on season-long loan". BBC Sport. 30 Mehefin 2017. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2017. after he failed to make a match-day squad in the league or cup during his time at the club.
  7. "Dan James returns to Swansea". www.shrewsburytown.com.
  8. https://www.bbc.co.uk/sport/football/40785845
  9. Pritchard, Dafydd (6 Chwefror 2018). "Swansea City 8–1 Notts County". BBC Sport. Cyrchwyd 7 Chwefror 2018.
  10. 10.0 10.1 "Daniel James". www.swanseacity.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-10. Cyrchwyd 2019-06-07.
  11. "Daniel James – Football Stats – Swansea City U21 – Age 21 – Soccer Base". www.soccerbase.com.
  12. Coleman, Tom (4 Tachwedd 2018). "The heartwarming moment Swansea City star Daniel James is given an early birthday surpriseCity". walesonline.
  13. "Daniel James: Swansea City open to talks with Wales winger over new deal". BBC Sport. 21 Rhagfyr 2018.
  14. "Daniel James: Leeds United link 'just rumours' says Swansea City winger". BBC Sport. 20 Ionawr 2019.
  15. "Leeds United's fight to sign Daniel James heading for the wire as transfer deadline looms". YEP. 30 Ionawr 2019.
  16. "Swansea 3 Birmingham 3". BBC Sport. 30 Ionawr 2019.
  17. "Daniel James undergoing Leeds United medical after club agree deal with Swansea City". YEP. 31 Ionawr 2019.
  18. "Leeds United Deal for Dan James Collapses". Yorkshire Post. 31 Ionawr 2019.
  19. "Leeds furious after Swansea pull plug on £10m Daniel James deal in final minutes of deadline day". The Telegraph. 31 Ionawr 2019.
  20. "Daniel James completes Manchester United medical". Sky Sports.
  21. "Confirmed: Man Utd agree deal in principle to sign Daniel James". www.manutd.com.
  22. "Daniel James: Swansea winger withdraws from Wales camp after father's death". BBC Sport. 23 Mai 2019. Cyrchwyd 23 Mai 2019.
  23. Gwilym, Andrew (2 Mehefin 2017). "Wales in knock-out hunt after Bahrain victory". walesonline.
  24. "Dan's Wales pride – Swansea City FC". www.swanseacity.com.
  25. "Wales up and running after Daniel James' early strike sinks Slovakia". www.theguardian.com.