Tîm pêl-droed cenedlaethol Slofacia

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Slofacia (Slofaceg: Slovenské národné futbalové mužstvo) yn cynrychioli Slofacia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Slofacia (Slofaceg: Slovenský futbalový zväz) (SFZ), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r SFZ yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Tîm pêl-droed cenedlaethol Slofacia
Enghraifft o'r canlynoltîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
Mathtîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
RhagflaenyddTîm pêl-droed cenedlaethol Tsiecoslofacia Edit this on Wikidata
GwladwriaethSlofacia Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.futbalsfz.sk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hyd nes 1993 roedd chwaraewr o Slofacia yn cynrychioli Tsiecoslofacia ond wedi i'r Weriniaeth Tsiec a Slofacia rannu'n ddwy wlad annibynnol, daeth Slofacia yn aelod o UEFA ym 1993 a FIFA ym 1994[1].

Llwyddodd Slofacia i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2010, a gwnaethant lwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop am y tro cyntaf ar gyfer cystadleuaeth Ewro 2016, lle cawsant eu gosod yng ngrŵp B, ynghyd â Chymru, Rwsia a Lloegr.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Uefa: Slovakia Football Association". Unknown parameter |published= ignored (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.