Daniel Thomas Davies

ffisigwr

Roedd Syr Daniel Thomas Davies (Tachwedd 189919 Mai 1966) yn feddyg Cymreig a wasanaethodd fel meddyg i nifer o aelodau'r teulu brenhinol.[1]

Daniel Thomas Davies
Ganwyd1899, Tachwedd 1899 Edit this on Wikidata
Pontycymer Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mai 1966 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmeddyg, llenor Edit this on Wikidata
PriodVera Rose Clarkson Edit this on Wikidata
PlantMarion Davies, Ann Davies Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog-Cadlywydd Urdd Brenhinol Fictoraidd Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Ganwyd Davies ym Mhontycymer, yn fab i i'r Parch D. Mardy Davies, ysgrifennydd trefniadol Evan Roberts y diwygiwr, ac Esther (née Jenkins) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr. Daeth ei yrfa ysgol i ben yng nghanol y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth o'r ysgol i wasanaeth milwrol gyda Chyffinwyr De Cymru[2] gan wasanaethu yn Ffrainc hyd fis Ebrill 1918 pan gafodd ei anfon i'r ysbyty yn un o ddioddefwyr pandemig ffliw 1918.[3]

Wedi'r rhyfel aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio meddygaeth, cyn gwneud hyfforddiant pelach yn ysbyty athrofaol y Middlesex, Llundain.[4] Enillodd graddau BSc Cymru(1921) MRCS & LRCP(1923) MB & BCh(1924) MD(1927) MRCP(1926) a FRCP(1932).

Priododd Vera merch J. Percy Clerkson, bu iddynt dwy ferch.

Gyrfa feddygol

golygu

Wedi cymhwyso yng Nghaerdydd ym 1924 bu'n gweithio fel meddyg tŷ i'r Athro Meddygaeth hyd 1927 pan symudodd i Lundain i weithio yn Sefydliad Biocemeg Courtauld a oedd newydd ei sefydlu yn Ysbyty Middlesex.[4] Yn y sefydliad bu Davies yn gyfrifol am yr adran glinigol, lle bu cleifion yn mynychu er mwyn cynnal ymchwiliadau. Yn y sefydliad magodd ei ddiddordeb a chychwynnodd ei ymchwil i secretiadau gastrig, y maes rhoddodd bri iddo fel ymchwilydd meddygol yn ddiweddarach yn ei yrfa.

Er gwaethaf ei lwyddiant mawr ym maes patholeg cemegol, teimla Davies nad oedd y gwaith yn rhoi digon o gyflwr iddo i ymdrin a chleifion o gig a gwaed. Ymadawodd a Sefydliad courtold gan fynd yn Gofrestrydd i Syr Robert Young, a oedd ar y pryd yn brif feddyg Ysbyty Middlesex.

Gadawodd Davies Ysbyty Middlesex pan gafodd ei benodi i staff yr Ysbyty Rhydd Brenhinol. Yno fu'n gweithio trwy'r rhengoedd meddygol hyd gael ei benodi'n brif feddyg. Yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn brif feddyg yn Ysbyty Saint Ioan ac Elisabeth.

Cleifion amlwg

golygu

Yn gynnar yn ei yrfa glinigol, fe ddaeth i sylw'r Arglwydd Dawson o Penn, llawfeddyg y brenin Edward VII. Ar awgrym Dawson penodwyd Davies yn feddyg i Ddug a Duges Caerefrog. Ar ymddiorseddiad Edward VIII dyrchafwyd Dug Caerefrog yn Frenin Siôr VI a thrwy hynny daeth Davies yn feddyg y Brenin. Bu yn gweini ar wely angau Siôr VI[5] ac ar ôl ei farwolaeth fe ddaeth yn feddyg y frenhines Elisabeth II.

Ymysg ei gleifion amlwg eraill bu Dug a Duges Windsor.[6] The Sunday Times Digital Archive, 1822-2006 a'r Arglwydd Beaverbrook, perchennog y Daily Express. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd penodwyd Beaverbrook yn Weinidog Cyflenwi a bu Davies yn ymgynghorydd ar gyflenwadau meddygol iddo.[2]

Roedd yn gwrthwynebu sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan gredu na ddylai'r llywodraeth ymyrryd yn annibyniaeth glinigol y meddyg. Er hynny roedd yn gyfaill mynwesol ac yn feddyg i Aneurin Bevan a bu'n gofalu am Bevan yn ei salwch olaf[7].

Gwaith ymchwil

golygu

Mae Syr Daniel Davies yn cael ei gofio'n bennaf am rai darnau dwys o ymchwil glinigol bu'n gyfrifol amdanynt. Efallai mai'r pwysicaf oedd ei arsylwadau clinigol ar secretiadau gastrig mewn perthynas ag oedran a gyhoeddwyd yn y Quarterly Journal of Medicine. Bu hefyd yn gwneud ymchwiliad helaeth iawn ar y rhan y gellid ei chwarae gan serwm gwrth-niwmococol wrth drin clefydau'r frest.[8] Traddododd Ddarlith Bradshaw ym 1935.

Anrhydeddau

golygu

Gwnaed Davies yn Ffisigwr Anrhydeddus Ysbyty Rhydd Brenhinol, Ysbyty Saint Ioan ac Elisabeth; Y Gwasanaeth Meddygol Brys a London House. Fe wnaed yn Ffisegwr Ymgynghorol Anrhydeddus Ysbytai Hounslow, Wood Green a Southgate.

Gwasanaethodd fel Arholwr mewn Meddygaeth yng Ngholeg Brenhinol y Ffisegwyr a Phrifysgolion Cymru, Caeredin a Lerpwl.

Fe'i hurddwyd yn Gadlywydd Urdd Victoria ym 1947 gan gael ei ddyrchafu'n Farchog Cadlywydd o'r urdd ym 1951.

Er bod Davies yn aelod triw o'r Annibynwyr trwy ei oes fe'i gwnaed yn Farchog yn Urdd Sant Sylfester gan y Pab ym 1953. Cafodd yr anrhydedd fel cydnabyddiaeth am ei waith yn trin cleifion ac offeiriaid Catholig.[9]

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref yn Wimpole Street, Llundain, yn 66 mlwydd oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. DAVIES, Syr DANIEL THOMAS (1899 - 1966), ffisigwr adalwyd 19 Ionawr 2018
  2. 2.0 2.1 Davies, Sir Daniel (Thomas), (1899–18 May 1966), Extra Physician to the Queen (formerly Physician to King George VI; Physician to HM Household; Physician to TRH the Duke and Duchess of York) WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 19 Ionawr 2018
  3. "FÔN I FYNWY - Y Goleuad". John Davies. 1918-04-19. Cyrchwyd 2018-01-19.
  4. 4.0 4.1 Royal College of Physicians of London Munk's Roll : Volume VI : Daniel (Sir) Davies Archifwyd 2015-10-17 yn y Peiriant Wayback adalwyd 19 Ionawr 2018
  5. Daily Mail Reporter. The King: Night Call by 4 Doctors; Daily Mail (London, England) 2 June 1951: (tud 1). Daily Mail Historical Archive, 1896-2004 adalwyd 19 Ionawr 2018
  6. Royal doctor flies to Duke of Windsor Sunday Times (London, England) 10 Aug. 1952: 1 adalwyd 19 Ionawr 2018
  7. Mr. Bevan Dies Peacefully In His Sleep." Times (London, England) 7 July 1960: 12. The Times Digital Archive adalwyd 19 Ionawr 2018
  8. "Sir Daniel Davies." Times (London, England) 19 May 1966: 16. The Times Digital Archive adalwyd 19 Ionawr 2018
  9. Physician Honoured By The Pope Times (London, England) 15 May 1953: 10. The Times Digital Archive adalwyd 19 Ionawr 2018